01/12/2024
Ffion Dafis a'i gwesteion yn trafod y byd celfyddydol yn ei holl amrywiaeth, a hynny yng Nghymru a thu hwnt. A look at the arts scene in Wales and beyond, presented by Ffion Dafis.
Ffion Dafis a'i gwesteion yn trafod y byd celfyddydol yn ei holl amrywiaeth, a hynny yng Nghymru a thu hwnt.
Yn cadw cwmni heddiw i Ffion mae Branwen Cennard sydd yn sgwrsio am bwysigrwydd lleoliad mewn cyfresi teledu.
Mae’r sylwebydd celfyddydol Mari Griffith yn adolygu arddangosfa gan Monet yn Oriel Courtauld yn Llundain, tra bod Bethan Marlow a Cerian Hedd yn trafod prosiect creadigol sy’n ffrwyth dwy flynedd o gydweithio gyda chymuned cwiar Abertawe, sef 'Queertawe'.
Rhywun arall sydd yn galw heibio’r stiwdio am sgwrs ydy’r gantores, y cerddor a’r bardd Casi Wyn, a hynny i drafod cynhyrchiad Theatr Cymru, ‘Dawns y Ceirw’ – cynhyrchiad y mae Casi ar hyn o bryd yn serennu ynddo fel storïwr, yn ogystal â pherfformio cerddoriaeth wreiddiol mae hi ei hun wedi ei gyfansoddi.
Cyfrol newydd gan yr arlunydd o Aberteifi, Meirion Jones o'r enw 'Pagatonia - Taith mewn Paent', sydd yn cael sylw Elinor Gwynn, tra bod Esyllt Maelor, Rhian Griffiths a Georgia Ruth yn trafod sut mae ysgrifennu’n greadigol yn gallu bod yn llesol wrth gynorthwyo unigolion trwy drawma, galar neu gyfnodau anodd.
Ac yn ychwanegol i'r trafod o fyd prysur y celfyddydau, mae digon o gerddoriaeth hefyd sy'n adlewyrchu'r wythnos yn greadigol.
Darllediad diwethaf
Rhagor o benodau
Blaenorol
Cerddoriaeth a chwaraewyd
-
Lowri Evans
Carlos Ladd (Patagonia)
- GADAEL Y GORFFENNOL.
- SHIMI RECORDS.
- 2.
-
Cerddorfa Genedlaethol Gymreig Y Â鶹Éç & Lesley Hatfield
Second Rhapsody
-
Siân James
Y Llyn
- Cymun.
- Recordiau Bos Records.
- 11.
-
Al Lewis
Clychau'r Ceirw
- AL LEWIS MUSIC.
-
Y Dail
Y Tywysog a'r Teigr
-
Côr Seiriol & Seindorf Beaumaris Band
Hwiangerdd Mair
- Carolau Seiriol Gyda Seindorf Beaumaris.
- ARAN.
- 2.
-
Malan
Dau Funud
- The Playbook.
Darllediad
- Sul 1 Rhag 2024 14:00Â鶹Éç Radio Cymru