50 mlynedd Pobol y Cwm, Gŵyl Pa Gya! a'r fonodrama 'Bwystfilod Aflan'
Sgyrsiau'n cynnwys nodi 50 mlynedd Pobol y Cwm a'r dramodydd Ian Rowlands sydd ar fin teithio i Accra, Ghana ar gyfer Gŵyl Pa Gya! A look at the arts scene in Wales and beyond.
Ffion Dafis a'i gwesteion yn trafod y byd celfyddydol yn ei holl amrywiaeth, a hynny yng Nghymru a thu hwnt.
Yn y rhaglen heddiw mae Dafydd Llewelyn a Robin Rollinson yn galw heibio’r stiwdio i nodi 50 mlynedd Pobol y Cwm.
Sgwrsio gyda’r artist o Sling, Bethesda mae Elinor Gwynn, sef Pete Jones, ac yntau ar fin arddangos ei luniau yn Oriel Plas Glyn y Weddw, Llanbedrog.
Mae’r dramodydd Ian Rowlands ar fin teithio i Ghana ar gyfer gŵyl Pa Gya! yn Accra i ehangu prosiect theatrig mae wedi bod yn gweithio arno, sef 'Aurora Borealis' tra bod y cerddor Geraint Lewis yn adolygu cynhyrchiadau diweddar Opera Cenedlaethol Cymru o dair opera gan Puccini.
Mae ymweliad hefyd ag ystafell ymarfer cynhyrchiad newydd ar y cyd rhwng Sinfonia Cymru a Music Theatre Wales, sef 'Bwystfilod Aflan' sydd yn fonodrama operatig gyda'r tenor Elgan LlÅ·r Thomas yn serenu.
 ninnau ar drothwy Wythnos Dysgu Cymraeg mae Ffion yn cael cwmni Irram Irshad, fferyllydd o Gaerdydd sydd wedi dysgu’r Gymraeg ac wedi cyhoeddi dwy gyfrol o farddoniaeth a straeon byrion yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Yn osytal â hyn mae Ewan Smith ac Anne Spooner yn trafod dwy gyfrol ar gyfer Cymry Cymraeg newydd, sef 'Fi a Mr Huws' gan Mared Lewis a 'Hanna' gan Rhian Cadwaladr.
Darllediad diwethaf
Cerddoriaeth a chwaraewyd
-
Al Lewis
Cariad Bythol
- Cariad Bythol.
- Al Lewis Music.
- 1.
-
Mr Phormula
Un i'r Gorffennol
-
Kiri Te Kanawa, Kent Nagano & Orchestre de l’Opéra de Lyon
O mio babbino caro
- Kiri Te Kanawa - Artist Portrait 2007.
- Warner Classics International.
- 1.
-
Gwenno Morgan
Samhain
-
Hana Lili
Aros
Darllediad
- Sul 13 Hyd 2024 14:00Â鶹Éç Radio Cymru