Main content
Mae鈥檔 ddrwg gennym 鈥榙yw鈥檙 bennod yma ddim ar gael ar 麻豆社 iPlayer Radio ar hyn o bryd

Pobi cacennau yn Nhregaron

Gwenllian Bulman-Rees yn s么n am ei busnes newydd yn pobi pob math o gacennau yn Nhregaron. Gwenllian Bulman-Rees chats about her cake making business in Tregaron, Ceredigion.

Gwenllian Bulman-Rees sy'n s么n am ei busnes newydd yn pobi pob math o gacennau a'u gweini yn ei siop goffi yn Nhregaron, gan hefyd gyflenwi cwmniau lleol.

Hefyd, Fflur Roberts o Langadfan ger Y Trallwng sy'n trafod y profiad o fod yn rhan o Raglen Arweinyddiaeth Wledig Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru eleni.

Sylw hefyd i ddau ddigwyddiad Treialon C诺n Defaid sy'n digwydd y penwythnos nesaf, a chyngor ar gyfreithiau a polisiau amaethyddol gyda'r gyfreithwraig Awel Mai Hughes.

Gwynedd Watkin, Swyddog Gweithredol Sirol Caernarfon gydag Undeb Amaethwyr Cymru sy'n adolygu'r straeon gwledig yn y wasg.

27 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 15 Medi 2024 07:00

Darllediad

  • Sul 15 Medi 2024 07:00