18/08/2024
Edrych ar ddarganfyddiadau newydd y byd gwyddonol gyda rhai o wyddonwyr uchelgeisiol ac amlycaf Cymru. Looking at the latest developments and findings in the world of science.
Cyfres wyddonol yn edrych ar ddarganfyddiadau newydd, syniadau arloesol ac ymchwil all newid byd. Yn cyflwyno y mae Elin Rhys - ac yn y gyfres hon bydd ganddi gymorth cemegydd ifanc, Dr Bedwyr ab Ion, yn adrodd ar bynciau llosg y byd gwyddonol, fel AI, y meicrobiom a Vitamin D. Ers blynyddoedd mae gwyddonwyr Cymru wedi bod ar flaen y gad gyda'u gwaith yn effeithio ar fywyd bob un ohonom mi, ac yn creu yfory newydd. Bydd y gyfres hon o dair rhaglen yn adlewyrchu gwaith gwyddonwyr yn rhai o'r meysydd pwysicaf yn ein bywydau. Ein hiechyd, ein hamgylchfyd a'n hanes. Byddwn yn clywed am sut mae AI yn gwneud bywyd gwyddonwyr yn haws, pam fod Hydrogen yn ynni gl芒n, effeithiol. Byddwn yn clywed am ffyrdd arloesol o ddelio gyda sbwriel, a sut mae sbwriel yn y gofod yn ben tost. Byddwn yn troi at ddarnau lleiaf ein bodolaeth - gweld sut mae addasu DNA yn dod yn haws, a sut mae micro-organebau yn gwneud gwyrthiau. Ac yn ogystal cyfle wythnosol i edrych n么l ar lwyddiannau rhai o wyddonwyr ein gorffennol - pan oedd eu yfory nhw yn newydd iawn.
Mae pethau bychain yn cael sylw yn yr ail raglen! Yn gyntaf bydd Dr Emily Preedy yn dangos sut y mae hi'n magu microalgae er mwyn iddyn nhw lanhau gwastraff carbon deuocsid a throi gwastraff yn gyfoeth! Wedyn yn llai fyth - bydd Dr Bedwyr ab Ion yn clywed am ficrobiom pob un ohonom ni gan ymweld 芒 Ceris Colven yn Chuckling Goat. Yr Athro Angharad Davies fydd yn torri darnau o DNA gan ddefnyddio proses sydd yn chwyldroi gwyddoniaeth foleciwlar - a byddwn yn clywed am un arall o wyddonwyr bro yr Eisteddfod gyda Dr Neville Evans.
Darllediad diwethaf
Darllediad
- Sul 18 Awst 2024 16:00麻豆社 Radio Cymru