Alun Thomas yn cyflwyno
Ymateb gwledydd Ewrop i'r etholiad, ymateb Gareth Charles i gynllun pum mlynedd Undeb Rygbi Cymru a sylw i bodlediad seiclo newydd "Pen y Pass". Discussing Wales and the world.
Wythnos i heddiw fe fydd etholwyr yn ethol aelodau seneddol newydd felly sut ma gwledydd Ewrop yn ymateb i'r hyn sy'n digwydd yma? Fe awn ni gael yr argraffiadau o Ffrainc a hefyd yn cael ymateb i'r ddadl ola rhwng Rishi Sunak a Syr Keir Starmer.
Bydd y sylwebydd rygbi, Gareth Charles yn ymateb i gynllun pum mlynedd Undeb Rygbi Cymru i geisio diogelu dyfodol y gamp;
Y fam a'r mab, sy'n mwynhau cerddoriaeth glasurol, Sian Wheway a Math Roberts, yn trafod sut mae cyfansoddwyr ifanc yn mynd ati i boblogeiddio eu gweithiau ar lwyfannau digidol.
Yr Archifydd Rob Phillips, o Archif Wleidyddol Gymreig Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, yn pori drwy rhai o'r deunydd etholiadol sydd yn eu casgliadau.
Ac ar drothwy ras enwog y Tour de France, Daniel Williams sy'n trafod podlediad seiclo newydd o'r enw "Pen y Pass".
Darllediad diwethaf
Rhagor o benodau
Blaenorol
Nesaf
Clip
Darllediad
- Iau 27 Meh 2024 13:00麻豆社 Radio Cymru