Rhodri Llywelyn yn cyflwyno
Trin a thrafod Cymru a'r byd, gan godi'r pynciau a gofyn y cwestiynau sy'n bwysig i chi. Discussing Wales and the world.
Y diweddaraf am ymgyrchu yr Etholiad Cyffredinol yng nghwmni'r sylwebydd gwleidyddol Betsan Powys; ac yn holi'r economegydd Eurfyl ap Gwilym os ydan ni ar drothwy rhyfel masnachol rhyngwladol?
Wedi blynyddoedd o ddilorni cyrsiau Astudiaethau'r Cyfryngau, mae adroddiad diweddar yn datgan fod iddynt werth academaidd. Yr Uwch Ddarlithydd Dyfrig Jones o Adran Astudiaethau'r Cyfryngau a Chynhyrchu ym Mhrifysgol Bangor sy'n trafod, ynghyd 芒 Beca Dalis sydd ar fin dilyn cwrs meistr mewn Newyddiaduraeth Darlledu.
Y sylwebydd gwleidyddol Hywel Williams sy'n s么n am arwerthiant arbennig yn Sotheby's, Llundain, ble mae modd cynnig am ddyddiadur Christine Keeler, gafodd ei sgwennu tra'r oedd hi yn y carchar.
Ac ymweld 芒'r meysydd chwarae yng nghwmni'r panel chwaraeon, sef Lowri Wynn, Gareth Roberts ac Ian Mitchelmore.
Darllediad diwethaf
Rhagor o benodau
Blaenorol
Darllediad
- Llun 24 Meh 2024 13:00麻豆社 Radio Cymru