Dewi Llwyd yn cyflwyno
Olrhain hanes Bardd y Brenin, Edward Jones, trafod sut mae mynd ati i ail gyhoeddi hen lyfrau Cymraeg, ac edrych ymlaen at chwaraeon y penwythnos. Discussing Wales and the world.
Wrth i'r holi barhau am gyfraniad ariannol dadleuol i'w ymgyrch, mae'r prif weinidog Vaughan Gething wedi bod yn ateb cwestiynau gan un o bwyllgorau'r senedd heddiw. Mae Dewi Llwyd yn trafod os yw'r ffrae wedi bwrw cysgod dros wythnosau cynnar ei arweinyddiaeth;
脗 hithau eleni yn 200 mlwyddiant ers marwolaeth Edward Jones, Bardd y Brenin, Elinor Bennett sy'n olrhain ei hanes;
Adam Pearce o gwmni Llyfrau Melin Bapur sy'n s么n sut mae'n mynd ati i ail gyhoeddi hen lyfrau Cymraeg, rhai sydd allan o brint, ac eraill sydd wedi ymddangos mewn rhifolion cylchgronau;
A Ffion Eluned Owen, Geraint Cynan a'r gohebydd Owain Llyr, sy'n edrych mlaen at gampau chwaraeon y penwythnos ar drothwy g锚m ola menwyod Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni.
Darllediad diwethaf
Rhagor o benodau
Blaenorol
Darllediad
- Gwen 26 Ebr 2024 13:00麻豆社 Radio Cymru