Dewi Llwyd yn cyflwyno
Dewi Llwyd a'r cwmni'n edrych mlaen at g锚m nesaf Cymru yn y Chwe Gwlad, a thrafod pam fod llai o raglenni comedi'n cael eu cynhyrchu bellach. Discussing Wales and the world.
Mi fyddwn ni'n trafod pwt o newyddion da o ran yr hinsawdd - mae na gwymp sylweddol wedi bod yn y defnydd o danwydd ffosil ym Mhrydain a'r Undeb Ewropeaidd, a mi awn ni dramor i Sbaen lle mae ffrae yn corddi wrth i rai ddadlau fod y gan sydd wedi ei dewis i gynrychioli'r wlad yng nghystadluaeth yr Eurovision eleni yn sarhaus i ferched.
Mi awn ni i'r meysydd chwarae, a Lowri Roberts, Owain Gwynedd a'r gohebydd Dafydd Jones sy'n edrych mlaen i g锚m nesaf Cymru yn erbyn Lloegr ym Mhencampwriaeth y 6 Gwlad;
A hithau'n 50 mlynedd eleni ers marwolaeth yr Undodwr D.Jacob Davies, Y Parchedig Eric Jones sy'n olrhain ei hanes;
Ac wrth i gynhyrchiad o "Drop The Dead Donkey" gyrraedd y byd theatr, sgwrs efo Sioned Wiliam fu'n sgriptio'r gyfres deledu wreiddiol, ac sy'n trafod pam bod llai o gyfresi comedi sefyllfa yn cael eu cynhyrchu bellach?
Darllediad diwethaf
Rhagor o benodau
Blaenorol
Darllediad
- Gwen 9 Chwef 2024 13:00麻豆社 Radio Cymru & 麻豆社 Radio Cymru 2