31/08/2023
Trin a thrafod Cymru a'r byd. Catrin Haf Jones sy'n codi'r pynciau a gofyn y cwestiynau sy'n bwysig i chi. Discussing Wales and the world.
Catrin Haf Jones sy'n dod a'r newyddion diweddaraf o Gymru a thu hwnt, gan gynnwys Dr Huw Dylan yn cymryd golwg ar berthynas y Deyrnas Unedig gyda Tseina, a'r diweddaraf am oblygiadau Brexit ar fwyd gyda Huw Thomas.
Morgan Dafydd a Nia Gruffydd sy'n trafod hyder rhieni i ddarllen i'w plant, yn dilyn ymchwil diweddar gan lyfrau Ladybird sydd yn nodi fod hyd at draean o rieni yn teimlo'n ddi-hyder i ddarllen i'w plant.
Mae Iwan Huws yn cael golwg ar waith a dylanwad y bardd Seamus Heaney, ddeg mlynedd wedi ei farwolaeth.
Ac Elinor Wyn Reynolds yn trafod pwysigrwydd operau sebon a pham fod angen eu gwarchod.
Darllediad diwethaf
Darllediad
- Iau 31 Awst 2023 13:00麻豆社 Radio Cymru 2 & 麻豆社 Radio Cymru