Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar Â鶹Éç iPlayer Radio ar hyn o bryd

Dydd Gwener

Iwan Griffiths a'i westeion yn trafod uchafbwyntiau a straeon y dydd o'r Brifwyl. Iwan Griffiths and guests discuss the day's events at the National Eisteddfod.

Iwan Griffiths a’i westeion yn trin a thrafod digwyddiadau’r dydd o faes Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd ym Moduan.

 hithau’n ddydd Gwener olaf yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llŷn ac Eifionydd prif gystadleuaeth lenyddol y dydd ydy cystadleuaeth Y Gadair, ac mae’r beirniaid Karen Owen, Rhys Iorwerth a Cathryn Charnell-White yn trafod y cynnyrch a ddaeth i law eleni.

Mari Pritchard a Kris Hughes sy'n sgwrsio ar ddiwrnod cael eu hurddo i’r Orsedd, tra bod Ffion Dafis yn ymweld â chynhyrchiad Theatr Bara Caws ‘Ffenast Siop’ yng nghwmni’r actores Carys Gwilym a’r gyfarwyddwraig Iola Ynyr.

Sioned Terry a John Ieuan Jones sydd yn edrych ymlaen at Wobr Goffa David Ellis ac yn dewis uchafbwyntiau cerddorol y dydd, tra bod Carwyn John yn trafod cystadleuthau llefaru’r wythnos.

 ninnau yn edrych ymlaen tuag at Eisteddfod Rhondda Cynon Taf 2024 mae Cadeirydd Pwyllgor Gwaith yr ŵyl honno, Helen Prosser yn galw heibio am sgwrs ac yn cael ambell i gyngor gan Gadeirydd Pwyllgor Gwaith Llŷn ac Eifionydd 2023, Michael Strain.

1 awr, 58 o funudau

Darllediad diwethaf

Gwen 11 Awst 2023 18:00

Rhagor o benodau

Nesaf

Dyma'r rhifyn diwethaf

Gweld holl benodau Eisteddfod Genedlaethol 2023

Darllediad

  • Gwen 11 Awst 2023 18:00