Gŵyl Chwedleua Ryngwladol
Gŵyl Chwedleua Ryngwladol, clybiau drama Dyffryn Peris, nofel newydd Euron Griffith a sgwrs gyda Tudur Owen. A look at the arts scene in Wales and beyond, presented by Ffion Dafis.
Ffion Dafis a'i gwesteion yn trafod y byd celfyddydol yn ei holl amrywiaeth, a hynny yng Nghymru a thu hwnt.
Mae Ffion heddiw yn ymweld â Gŵyl Chwedleua Ryngwladol 'Beyond the Border' yn Ninefwr ac yn cael cwmni y chwedleuwyr Fiona Collins a Ceri Phillips, tra bod y comediwr Tudur Owen yn sgwrsio am y grefft o ysgrifennu a pherfformio comedi ar gyfer radio.
Cawn hefyd hanes sefydlu clybiau drama ar gyfer plant yn ardal Dyffryn Peris yng nghwmni Sian Wheway a Mari Elen, tra bod Mari Grug yn cael hanes taith gelfyddydol yr artist Rhys Padarn Jones o Bontarddulais.
Mae'r dramodydd Ian Rowlands a Lisa Lewis yn sgwrsio am gyfrol newydd o ysgrifau sydd yn ymdrin â gwahanol agweddau ar y theatr yng Nghymru ac mae Sian Wheway a Mari Elen yn sgwrsio am glwb drama newyd sbon yn ardal Dyffryn Peris 'Rugarug' sydd ar fin dechrau.
Ac yna i gloi, mae Ffion y cael cwmni yr awdur o Gaerdydd, Euron Griffith, sydd newydd gyhoeddi ei nofel - 'The Confessions of Hilary Durwood' - cawn hanes creu'r nofel, a hefyd yr hyn sydd ganddo ar y gweill.
CODAU AMSER:
06.06 - 16.17 - Gŵyl Chwedleua Ryngwladol 'Beyond the Border' - Fiona Collins a Ceri Phillips
20.45 - 32.30 - Rhys Padarn Jones - Orielodl
40.59 - 54.00 - Sian Wheway a Mari Elen - hanes clwb drama newydd 'Ruagrug' yn ardal Dyffryn Peris
1.04.05 - 1.16.55 - Tudur Owen
1.27.33 - 1.41.53 - Ian Rowlands a Lisa Lewis
1.44.42 - 1.54.06 - Euron Grffith
Darllediad diwethaf
Rhagor o benodau
Nesaf
Cerddoriaeth a chwaraewyd
-
The Successors of Mandingue
Postcards from Fatoumata Kouyate Djeliguinet's Summer 2002 tour
-
Hoedown, Aaron Copland & Â鶹Éç National Orchestra of Wales
Hoedown - Aaron Copland - Â鶹Éç NOW
-
HMS Morris
Myfyrwyr Rhyngwladol
- Bubblewrap Collective.
-
Parisa Fouladi
Siarad
-
Sywel Nyw & Lewys Wyn
Machlud
- Lwcus T.
-
Don Quioxte, Richard Strauss & Â鶹Éç National Orchestra of Wales
Don Quioxte - Strauss - Â鶹Éç NOW
-
Welsh of the West End
Fedrai 'Mond dy Garu di o Bell (Eisteddfod Gudd)
-
Elegia & Javier Rodriguez
Elegia - Javier Rodriguez
-
Eden
'Sa Neb Fel Ti
- PWJ.
Darllediad
- Sul 9 Gorff 2023 14:00Â鶹Éç Radio Cymru & Â鶹Éç Radio Cymru 2