08/10/2022
Dylan Jones a'r criw yn trafod pob math o bethau'n ymwneud â phêl-droed yng nghwmni Gary Pritchard ac Owain Tudur Jones. Football magazine programme with Dylan Jones and the gang.
Dylan Jones a'r criw yn trafod pob math o bethau'n ymwneud â phêl-droed a hynny yng nghwmni Gary Pritchard ac Owain Tudur Jones.
 hithau wedi bod yn wythnos fawr i dim Merched Cymru mae Dylan yn sgwrsio gyda dwy o gefnogwyr fu’n rhan o’r dathliadau nos Iau ym Stadiwm Dinas Caerdydd.
Mae hi'n ail rownd Cwpan Cymru y penwythnos yma wrth i dimau y Cymru Premier ymuno yn y gystadleuaeth a’r gêm rhwng Y Waun a TNS sydd yn cael sylw'r criw.
Yn ystod y penwythnos mi fydd carfan tim Rhanbarthol Cymru yn hedfan am Belfast yng Ngogledd Iwerddon ar gyfer gemau rhagbrofol i gyrraedd cystadleuaeth Cwpan Rhanbarthau UEFA y flwyddyn nesa. Tim rhanbarth GOGLEDD Cymru fydd yn chwarae, ac mi fyddan nhw yn wynebu tri rhanbarth arall yr wythnos nesaf, sef Rhanbarth Dwyreiniol Gogledd Iwerddon, Zlin o'r Weriniaeth Siec a Gothehburg o Sweden. Mae Dylan yn cael cwmni Dewi Evans, Rheolwr Cyffredinol JD Cymru Leagues North i egluro’r cyfan.
Darllediad diwethaf
Darllediad
- Sad 8 Hyd 2022 08:30Â鶹Éç Radio Cymru
Podlediad
-
Ar y Marc
Golwg ar newyddion pêl-droed. Football news and discussion