Main content

Meirion Jones

Meirion Jones yr Artist yw gwestai Beti ai Phobol. Beti George chats to Meirion Jones the Artist from Aberteifi.

Yr artist Meirion Jones yw gwestai Beti ai Phobol. Cafodd ei fagu yn Aberteifi a bu'n cyd weithio mewn stiwdio gyda'i Dad, y diweddar Aneurin Jones.

Astudiodd Lefel A mewn Arlunio, Hanes a Cymraeg. Yna aeth i Goleg Celf Dyfed Caerfyrddin i astudio Celf am ddwy flynedd a dysgu llawer.

Aeth Meirion ymlaen wedyn i astudio Cwrs Cyfathebu yn y Coleg Normal Bangor cyn mynd yn athro am 10 mlynedd, yn dysgu yn Abergwaun.

Yna cyrhaeddodd bwynt yn ei fywyd naill ai ei fod yn aros yn y proffesiwn hyd nes y byddai鈥檔 ymddeol, neu ei fod yn torri hynny yn ei flas a gwireddu breuddwyd a byw fel artist o achos doedd o ddim y credu na fyddai wedi gallu maddau iddo fo ei hun tasa fo ddim.
Roedd yn byw gartref o hyd a treuliodd y 10 mlynedd nesaf yn y stiwdio efo鈥檌 Dad. Roedd gan Meirion berthynas arbennig o glos efo鈥檌 Dad, medda fo. Dysgodd lawer iawn ganddo. Roedd hi鈥檔 berthynas symbiotig- roedd y ddau angen ei gilydd. Pan fu farw ei Dad, prynodd Joanna ag yntau 'small holding' tu allan i Abereifi. Dyma droi y beudy yno yn stiwdio ar gyfer y ddau.

Cyfarfu Meirion Joanna yn Eisteddfod Abertawe ac mae hithau鈥檔 arlunydd llawn amser hefyd. Priodwyd y ddau yn 2013. Yn ddiddorol dydy Meirion erioed wedi arlunio ar ben ei hun, Roedd hefo鈥檌 Dad o鈥檙 blaen a bellach mae rhannu stiwdio efo Joanna.

Mae鈥檙 byd mytholegol a chwedlonol o ddiddordeb mawr i Meirion. Cawn glywed hanes Chwedl Llyn y Fan fach. Mae鈥檙 chwedl hon wedi ei hudo drwy ei fywyd.

Ar gael nawr

51 o funudau

Darllediad diwethaf

Iau 7 Gorff 2022 21:00

Clip

Darllediadau

  • Sul 3 Gorff 2022 13:00
  • Iau 7 Gorff 2022 21:00

Archif Beti a'i Phobol

Lawrlwythwch rhaglenni Beti a'i Phobol o'r archif.

Podlediad