Main content
Mae鈥檔 ddrwg gennym 鈥榙yw鈥檙 bennod yma ddim ar gael ar 麻豆社 iPlayer Radio ar hyn o bryd

Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2022

Hanna Hopwood a'i gwesteion sy'n trafod bias o fewn y byd iechyd menywod. Hanna Hopwood and her guests discuss things that can make life easier.

Ar ddiwrnod rhyngwladol y menywod Hanna Hopwood sy'n cael cwmni y gweinidog iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, Eluned Morgan AS i drafod y bias mae menywod Cymru yn ei wynebu pan mae'n dod at faterion iechyd. Mae ymgyrch diwrnod rhyngwladol y menywod eleni yn galw am roi terfyn ar y bias o fewn y byd iechyd menywod gan fod ymchwil yn dangos bod symptomau menywod yn aml yn cael eu diystyrru a bod bylchau mawr o fewn ymchwil sy'n golygu bod effeithau'r bias rhywedd hwn yn ddifrifiol ac yn ddirfawr.

Yn rhannu eu profiadau personol mae Manon Mai Rhys-Jones oedd wedi gorfod disgwyl nes oedd hi'n ddifrifol wael i gael y diagnosis cywir; Y patholegydd Dr Nia Bowen sydd wedi profi rhagfarn ar sail ei rhyw yn y gweithle; A llysgenad Endometriosis UK, Anna Cooper sydd wedi cael 14 llawdriniaeth fawr er mwyn ceisio mynd i鈥檙 afael a鈥檌 chyflwr.

57 o funudau

Darllediad diwethaf

Maw 8 Maw 2022 18:00

Darllediad

  • Maw 8 Maw 2022 18:00