Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar Â鶹Éç iPlayer Radio ar hyn o bryd

°äŵ²Ô

°äŵ²Ô yw thema John Hardy wrth bori drwy archifau Radio Cymru. A visit to the Radio Cymru archive with John Hardy, and this week's theme is Dogs.

Cawn glywed amryw o glipiau difyr, o gi sy’n serennu ar y record ‘This is My Life’ o 1972, i gi John Hardy, Meg- sydd hefyd yn gallu canu! Yn ogystal, fe glywn glip o Trebor Edwards yn cofio’r fideo enwog ohono a’i ffrind ffyddlon Shep.
Cawn gyfle i glywed sawl trafodaeth am gŵn ar wahanol raglenni, gan gynnwys rhaglen Ffeil o 1999 sy’n trafod dyfodol y Ci Defaid Cymreig, yn ogystal â chlip Dros Ginio ble mae Glynne Jones yn sgwrsio am werthu ci defaid ifanc am dros £7000. Hefyd, John Robinson sy’n sôn am y broblem gynyddol o faw cŵn mewn llefydd cyhoeddus ar raglen Manylu yn 2014.
Moc Morgan sy’n sôn am ei gi Shoni ar raglen Hwnt ac Yma o’r 80au, a Tecwyn Vaughan Jones sy’n sôn am hanes ei gi Mot yn mynd ar goll am bum wythnos gyda Trystan ac Emma.
Cawn glywed am gŵn ym myd llenyddiaeth wrth i Dr Delyth Badder gofio’r cŵn yn ein chwedlau a llen gwerin, ac mae Ifor ap Glyn yn edrych ar ddatblygiad a tharthiad y gair ‘Corgi’. Fe awn ni’n ôl i Eisteddfod Llangollen 1988 i glywed disgyblion Ysgol Glan Clwyd yn canu ‘Gai Fenthyg Ci’, ac yn ôl i un o benodau’r ddrama gomedi Glas y Dorlan o 1978 wrth i PC Hughes esbonio’i gais am gael ci nad oedd at ddant pawb!
Ci neu gath? Dyma’r cwestiwn oedd gan Hywel Gwynfryn wrth holi trigolion Caerfyrddin yn 1993.
Ac, yn olaf- i'r cystadlu. Cawn glywed am baratoi a chystadlu gyda chŵn yng nghystadleuaeth Crufts, gan Heledd a Bethan Jones, yn ogystal â Dylan Wyn sy’n rhannu ei atgofion.

56 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 6 Maw 2022 14:00

Rhagor o benodau

Blaenorol

Nesaf

Gweld holl benodau Cofio

Darllediad

  • Sul 6 Maw 2022 14:00