31/01/2022
Cwrs Sylfaen Celf Coleg Menai yn ddeugain oed- Nia yn clywed hanes y cwrs. Menai College's Art Foundation course marks 40 years- Nia hears about more.
Mae’r Cwrs Sylfaen mewn celf yng Ngholeg Menai yn ddeugain oed eleni ac i nodi’r garreg filltir arbennig yma mae arddangosfa o waith myfyrwyr ddoe a heddiw i’w gweld yn Storiel. Yr wythnos hon, mae Nia Roberts yn clywed am hanes y cwrs ac am yr arddangosfa gan Manon Awst, Llinos Owen a Tim Williams . Mae'r cerddorion Guto Pryderi Puw a Rhodri Davies yn edrych ymlaen at Ŵyl Gerdd Bangor ac mae Mari Emlyn yn datgelu cynlluniau Cwmni Bara Caws ar gyfer y misoedd nesaf. “Dawnsio’r Polca “ yw enw arddangosfa newydd yr artist Catrin Williams ac mae Nia’n sgwrsio efo Catrin am ei gwaith, cyn gwibdaith ar hyd yr A470 a hynny yng nghwmni’r beirdd Ness Owen a Sian Northey.
Darllediad diwethaf
Darllediad
- Llun 31 Ion 2022 21:00Â鶹Éç Radio Cymru & Â鶹Éç Radio Cymru 2