Cariad
Archif, atgof a chân ar y thema cariad yng nghwmni John Hardy. A visit to the Radio Cymru archive with John Hardy.
 ninnau ar drothwy Diwrnod Santes Dwynwen, thema gariadus sydd i'r pytiau o'r archif yng nghwmni John Hardy.
Lyn Ebenezer sy'n trafod ei gerdd ar y testun 'Ar y Shilff' ar raglen Dros Ben Llestri o 1992. Hefyd, hanes gwr Penybryn yn caru merch Gwern Hywel ond mi nath hi briodi Wilff y plismon yn diwedd!
Elinor John sy'n holi Catrin Stevens am y ffrog briodas, arferion priodas ac ofergoelion,, tra bos Aeron Pughe, Tegwen Morris a Meinir Lloyd Jones yn sgwrsio am yr arferion o wneud hwyl neu dynnu coes yng nghefn gwlad noson cyn priodi.
Fe glywn ni Beti George yn holi'r bobl sut ddaru nhw ofyn i rywun briodi a Shân Cothi yn holi Emrys a Derwenna Jones o Gaernarfon ar achlysur eu priodas Sapphire.
Emyr Jones o Gwm y Glo sydd yn cofio'n annwyl am Nain a Taid Llanberis, ac Ian Gill sydd yn holi O T Jones am ramant - Ydy o'n broses cemegol?
Hefyd ymysg y pytiau, Wali Tomos yn gorfod methu gêm ddydd Sadwrn oherwydd fod o mewn cariad.
John Meredith fu'n holi Martha a John Davies yn 2002, y naill yn 92 a'r llall yn 95, yn dathlu penblwydd priodas platinum.
A Myrddin ap Dafydd sy'n adrodd ei gerdd am y Morris Marina a gofyn i'w gariad ei briodi.
Darllediad diwethaf
Cerddoriaeth a chwaraewyd
-
Sassie Rees
Cariad
-
Eleri Llwyd
Cariad Cyntaf
- Am Heddiw 'Mae Nghân.
- Recordiau Sain.
- 10.
-
Y Trwynau Coch
Pan Fo Cyrff Yn Cwrdd
- Trwynau Coch - Y Casgliad.
- CRAI.
- 24.
-
Iwcs a Doyle
Edrychiad Cynta'
- Edrychiad Cynta'.
- Sain.
- 7.
-
Non Parry
Colli Cariad
- Cân I Gymru 2000.
- 8.
Darllediad
- Sul 23 Ion 2022 14:00Â鶹Éç Radio Cymru