Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar Â鶹Éç iPlayer Radio ar hyn o bryd

Môr a Mynydd

Môr a Mynydd yw thema'r wythnos. Archif, atgof a chân yng nghwmni John Hardy. A visit to the Radio Cymru archive with John Hardy.

Yn 2007, fe rwyfodd Elin Haf Davies ar draws Môr yr Iwerydd a hi oedd y Gymraes gyntaf i wneud hynny. Roedd y daith o La Gomera yn yr Ynysoedd Dedwydd i Antigua yn y Caribî yn dipyn o her i Elin a'i ffrind Herdip Sidhu ond fe lwyddodd y ddwy gyrraedd pen eu taith yn Chwefror 2008. Tydi Fan y Bîg ym Mannau Brycheiniog ddim yn fynydd erbyn hyn, felly sut mae mesur mynydd, a beth sy'n fynydd a beth sy'n fryn? Aled Williams sy'n egluro wrth Aled Hughes.

Eric Jones, y dringwr, yn sôn am fentro i gopa Everest. Eric gyda llaw oedd y dyn cyntaf o wledydd Prydain i ddringo wyneb gogleddol Mynydd yr Eigr ar ei ben ei hunan. John Mathew Owen o Foelfre yn sôn am hela morfilod gyda physgotwyr o Norwy ar long y Southern Wave – y whaling ship - fel oedden nhw yn cael ei galw.
Cyfle i ddilyn taith criw o Gymry yn cynnwys Shân Cothi i ben mynydd uchaf Affrica, Kilimanjaro, wrth iddyn nhw godi arian tuag at Ysbyty Felindre yng Nghaerdydd.

Elin Roberts o Fethesda yn sôn am ei phrofiad o weithio ar y llongau pleser yn gwneud triniaethau amgen. Profiad go wahanol gafodd Rob Lewis, Abergwaun wrth deithio ar long y Normandier i Dakar (Senegal). Fe drawyd y llong gyda'r pla marwol (black water fever). Roedd Rob yn 85 oed pan roedd yn adrodd yr hanes wrth Beti George nôl yn 1977.

Aled Eames yn sôn am ferched ar y môr ac yna Marged Tudur, y bardd ifanc o Lŷn, sy'n sgwrsio efo Gwen Aaron sy’n aelod o Glwb Mynydda Cymru ac i orffen cawn glywed y stori tu ôl i'r record Dwylo Dros y Môr.

56 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 22 Awst 2021 14:00

Rhagor o benodau

Blaenorol

Nesaf

Gweld holl benodau Cofio

Darllediad

  • Sul 22 Awst 2021 14:00