Ceredigion
John Hardy yn crwydro Ceredigion drwy archif, atgof a ch芒n. A visit to Ceredigion through the archives with John Hardy.
Gyda hithau'n agos谩u at yr Eisteddfod Genedlaethol yng Ngheredigion, dyma gyfle eto i ni wrando ar John Hardy yn dod a'r gore o'r ardal a'r cymeriadau wrth grwydro Ceredigion.
Yn gyntaf, galw yng nghartref brenhines canu gwlad, Doreen Lewis; yna heibio Enoc Evans, Llanwnnen sy'n galw anifeiliaid ac yna Mrs Elizabeth Edwards o Bontrhydygroes yn rhannu rhai profiadau o fod yn ferch ifanc yn gwasanaethu ym mhlasdy Hafod Uchtryd yng ngogledd Ceredigion.
David Jenkins o鈥檙 Llyfrgell Genedlaethol yn trafod Cwpan Nanteos sy' bellach wedi ei gadw'n saff yn y Llyfrgell Genedlaethol ynghyd 芒 sgwrs gyda Mrs Maggie Williams oedd wedi bod yn gwasanaethu efo Mrs Powell, yr olaf o鈥檙 Powelliaid ym Mhlas Nanteos. Dywedir mae Cwpan Nanteos yw'r Greal Sanctaidd ei hun, sef y gwpan yr yfodd Iesu Grist a'i ddisgyblion ohono yn y Swper Olaf.
Elin Hefin o鈥檙 Borth yn dathlu 150 mlynedd ers agor gorsaf drenau Borth yn 2013. Linda Griffiths yn Neuadd Pantycelyn ag yn sgwrsio efo Dr Geraint Evans a fu'n warden yno a'r actor ac aelod o'r gr诺p Mynediad am Ddim, Emyr Wyn, a fu'n fyfyriwr yno.
Melinda Williams yn s么n am fod yn rhan o griw pantomeim enwog Theatr Felinfach a'r cyfeillgarwch sydd rhwng y criw a'r cast. Winston Evans sy鈥檔 rhoi rhywfaint o hanes pysgota mecryll yng Nghei Newydd, yn ogystal 芒'i hanes personol yntau fel pysgotwr.
Nid yn aml y cysylltwch mwyngloddio gyda Ceredigion ond roedd plwm ar gael yn y sir ac yn cael ei adlewyrchu yn enwau llefydd megis Esgair Mwyn, Cwm Symlog a Frongoch. Mae nhw gyd wedi cau bellach ond ma'r atgofion yn dal yn fyw. Beti George yn sgwrsio gydag Elin Jones, Llywydd y Senedd, am ei dyddiau yn y band Cwlwm.
Darllediad diwethaf
Darllediadau
- Sul 1 Awst 2021 14:00麻豆社 Radio Cymru & 麻豆社 Radio Cymru 2
- Sul 24 Gorff 2022 14:00麻豆社 Radio Cymru 2 & 麻豆社 Radio Cymru