Main content
Mae鈥檔 ddrwg gennym 鈥榙yw鈥檙 bennod yma ddim ar gael ar 麻豆社 iPlayer Radio ar hyn o bryd

Adar Brith

Archif, atgof a ch芒n ar thema Adar Brith yng nghwmni John Hardy. A visit to the Radio Cymru archive with John Hardy.

John Hardy sy'n treulio awr yng nghwmni yr adar brith, ond beth yw aderyn brith? Rhywun gwahanol? Rhywun lliwgar ac ecsentrig? Rhywun sydd yn amlwg oherwydd ei bod yn wahanol, boed yn ddrwg neu'n dda? Beth bynnag, mae na gasgliad amryliw ohonynt yn y rhaglen.

Oeddech chi'n gwybod fod Medi 19eg yn ddiwrnod 鈥渟iarad fel m么r leidr鈥? Jon Meirion Jones sy'n s么n am un o f么r-ladron enwoca Cymru, sef Barti Ddu a anwyd Mai 1682 yn Sir Benfro. Arhoswn yn Sir Benfro i glywed gan yr Athro Geraint H Jenkins am ei hoff gymeriad, sef Jemima Nicholas 鈥 arwres brwydr Abergwaun. Cymeriad enfawr eto - y tro hwn gan Arfon Gwilym, sy鈥檔 adrodd hanes Marged Uch Ifan, sydd wedi ei hanfarwoli mewn baled enwog. Pan roedd Marged yn 70 oed, hi oedd cwffiwr gore鈥檙 wlad yn 么l y s么n!!

Hanes John Thomas o Ddyffryn Nantlle sef y dyn oedd yn siarad mewn cynghanedd ac yn gwisgo het efo tyllau er mwyn i鈥檞 ymennydd gael anadlu.

Catrin Gerallt sy'n trafod Sarah Jane Rees, a anwyd yn Llangrannog yn 1839. Bu鈥檔 bregethwraig, yn forwr, yn brifathrawes ac yn golygu'r cylchgrawn "Y Brythones". Tipyn o ddynes!

Y cerddor Alwyn Humphreys sy'n adrodd hanesion ysgafn am gymeriadau lliwgar o fewn y byd cerdd - Erik Satie, Adolf Henselt, Louis Julienne a Dewi Ystrad.

Y Cristion, y comiwnydd, y deintydd a'r bardd Niclas y Glais sy'n siarad n么l yn 1966 am ei ddaliadau ac yna Eurfyl Lewis o Langlydwen sy'n s么n am hen berthynas iddo, Twm Carnabwth.

Harri Parri yn holi John Edwards, Glanrafon am gwrdd 芒 Coch Bach y Bala a gorffen efo portread o wraig hynod o gyfnod y Tuduriaid, Catrin o Ferain, a oedd yn cael ei galw'n Mam Cymru.

56 o funudau

Darllediad diwethaf

Mer 16 Tach 2022 18:00

Darllediadau

  • Sul 27 Meh 2021 14:00
  • Mer 16 Tach 2022 18:00