Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar Â鶹Éç iPlayer Radio ar hyn o bryd

Alun a Carys v Siân a Gareth

Catrin Beard sy'n chwilio am y tîm mwyaf gwybodus mewn cwis di-lol. Catrin Beard searches for the most knowledgeable team in this no-nonsense quiz.

Catrin Beard sy'n chwilio am y tîm mwyaf gwybodus mewn cwis di-lol. Yr wythnos hon, Alun a Carys sy'n herio Siân a Gareth.

Mae Alun a Carys wedi ymgartrefu yng nghyffiniau Caerfyrddin. Mae Alun, sy'n dod yn wreiddiol o Graig Cefn Parc yn gweithio ym maes y cyfryngau cymdeithasol ac mae Carys sy'n wreiddiol o Lanllwni ger Llanybydder yn athrawes. Rygbi yw diddordeb mawr Alun, mae'n ddyfarnwr ac yn gefnogwr brwd o'r Scarlets

Mae Siân a Gareth yn byw yn Nhongwynlais (gogledd Caerdydd), ac yn rhieni i ddau fachgen bach direidus, Gwilym ac Emlyn.
Mae Siân yn gweithio ar ei liwt ei hun fel golygydd, ac mae Gareth yn was sifil, gyda’r arolygaeth gofal iechyd.
Mae Siân yn rheolwr tîm pêl-droed dan 10 Gwilym, (Gwaelod Rangers) ac yn arweinydd Afanc sgowtiaid lleol hefyd. Felly, pan fydd 5 munud yn sbâr ganddi, mae’n hoffi darllen neu gwtsho lan o flaen y teledu a gwylio rwtsh!
Mae Gareth yn gefnogwr selog i dîm pêl-droed Cymru, a thîm rygbi Cymru, ac unrhyw dîm arall o Gymru, a dweud y gwir – gan gynnwys y darts! Fe achosodd dipyn o helynt i Gareth Bale y llynedd ar ôl creu baner ‘Cymru, Golf, Madrid’. Aeth e’n ‘feiral’ ar ôl i’r lluniau gael eu dangos mewn papurau newydd ac ar wefannau ar draws y byd!

27 o funudau

Darllediad diwethaf

Iau 18 Maw 2021 18:00

Darllediad

  • Iau 18 Maw 2021 18:00