Main content
Mae鈥檔 ddrwg gennym 鈥榙yw鈥檙 bennod yma ddim ar gael ar 麻豆社 iPlayer Radio ar hyn o bryd

Newid

Archif, atgof a ch芒n yng nghwmni John Hardy. Y thema 'Newid' sydd dan sylw! Another visit to the Radio Cymru archive with John Hardy. This week? Its all 'Change'!

Blwyddyn Newydd Dda! Blwyddyn newydd a blwyddyn o newid gobeithio, a dyna yw thema'r rhaglen hefyd.

O newid arian degol i newid byd wedi tor priodas, o newid meddyliau Cyngor Warrington am foddi Glyn Ceiriog i newid mewn ffordd o fyw wrth i drydan gyrraedd Cwm Brefi yn 2003.

Hefyd mae Dr Llinos Roberts yn sgwrsio am y newidiadau ym myd meddygaeth dros y canrifoedd. Newid yn hanes merched sy'n mynd a sylw'r hanesydd Catrin Stevens, tra bod ni'n mynd n么l i'r 1960au, degawd y chwyldro cymdeithasol yng Nghymru. Jane Edwards sy'n rhannu ei meddyliau am ddyfodiad y bilsen, ac mae Cofio yn mynd ar daith gerddorol wrth hel atgofion am y rhaglen bop, Disg a Dawn.

A phwy arall ond y diweddar Dr John Davies allai fynd a ni ar daith drwy hanes sy'n dechrau gyda'r Armada ac yn gorffen yng Nghwm Rhondda!

56 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 3 Ion 2021 14:00

Rhagor o benodau

Blaenorol

Nesaf

Gweld holl benodau Cofio

Darllediad

  • Sul 3 Ion 2021 14:00