Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar Â鶹Éç iPlayer Radio ar hyn o bryd

Coelion ac Ofergoelion

Archif, atgof a chân am goelion ac ofergoelion yng nghwmni John Hardy. Another visit to the Radio Cymru archive with John Hardy.

Ydech chi'n gwrthod cerdded o dan ysgol? Wastad yn dweud helo wrth bioden?

WR Evans sy'n adrodd hen ofergoelion, megis y clustiau a'r trwyn yn cosi ac agor ymbarel yn y tÅ·.

Tom Evans yn holi Sally Jenkins, Penrhyncoch am "Gwylnos" sef gŵyl draddodiadol o goffau’r meirw trwy ddathlu yn hytrach na thristau ond gyda thwf y Methodistiaid, fe ddifrifolwyd yr Wylnos a’i throi’n achlysur crefyddol.

Ar ddiwedd 1999, roeddem yn poeni am beth fydde'n digwydd i’r cyfrifiaduron a’r teclynnau digidol wrth i’r flwyddyn 2000 gyrraedd, ofn y ‘millenium bug’!

David Jones Lledrod yn sôn am yr hen ddulliau o wella anifeiliaid ac yna Sheila Evans yn gweld ysbrydion ym Mhlas Mynachdy, lle bu'n gweithio am dros ddeugain mlynedd i deulu Ponsonby Lewis.

Roedd y Prifardd Cyril Jones yn blentyn yn Nyffryn Arth yng Ngheredigion rhyw filltir a hanner o leoliad adfail bwthyn unig Mari Berllan Bitter. Pan fyddai’n fachgen ifanc bydde fo a’i ffrindiau yn mentro lawr am antur at yr adfail a mynd mewn, gan godi ofn ar ei gilydd.

Blodwen Griffiths yn cofio pan oedd hi’n ferch fach nôl yn y 1930au ar fferm Gilfach yr Hewl, ac un noson mynd hefo ei thad i warchod yr anifeiliaid a gweld golau yng nghanol y brwyn ac yna symud i ffwrdd. Bu’r ddau yn gwylio'r golau am tua 2-3 munud ac yna fe ddiflannodd. Beth oedd y golau? Golau neu Cannwyll Corff?

Harri Parri yn holi John Moxham o Lanbedrog oedd yn rhagweld breuddwydion; Eirlys Gruffydd yn sôn am y gwahaniaeth rhwng gwrach ddu a gwrach wen; Gareth Owen o Theatr Pafiliwn y Rhyl yn sôn am ofergoelion byd y theatr a hefyd cawn glywed hanes y tylwyth teg gyda Robin Gwyndaf a Dic Harries.

55 o funudau

Darllediad diwethaf

Mer 28 Hyd 2020 18:00

Rhagor o benodau

Blaenorol

Nesaf

Gweld holl benodau Cofio

Darllediadau

  • Sul 25 Hyd 2020 14:00
  • Mer 28 Hyd 2020 18:00