Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar Â鶹Éç iPlayer Radio ar hyn o bryd

Dathlu Cwmnïau Recordiau Cymraeg

Archif, atgof a chân yng nghwmni John Hardy, yn dathlu Cwmnïau Recordiau Cymraeg. Another visit to the Radio Cymru archive with John Hardy. Today - Welsh record labels.

Treiddio nôl i archif Cofio yr wythnos hon, yn ôl i 2009. Mae hon yn berl o raglen oedd yn gyfle i ni ddathlu cwmnïau recordiau Cymru wrth i gwmni Sain ddathlu'r 40.

Dennis Rees sy'n rhannu cyfrinach llwyddiant Recordiau’r Dryw, a bosib fod gan Hogia'r Wyddfa rywbeth i wneud â'r peth.

Ymlaen i drafod sefydlu Cambrian Recordings. Llais Gwyndaf Roberts ac Arthur Davies yn adrodd yr hanes a chlywn leisiau Tony ac Aloma a Rosalind Lloyd. Huw Jones sy'n sôn am ddechrau Cwmni Sain ac am y gân gyntaf i Sain ryddhau sef 'Dwr'. Fedrwn ni ddim trafod cwmni Sain heb sgwrsio â Dafydd Iwan.

Chi'n cofio Y Disco Cymraeg? Mae T Glynne Davies yn sgwrsio â Mici Plwm, oedd newydd gwblhau chwe mis o deithio Cymru efo’i disgo. Sôn am sig Helo Sut Da Chi a recordiau Cymraeg neu eu prinder! Mae cyfraniad Endaf Emlyn i gerddoriaeth Gymraeg yn amlwg, ond roedd ei lwyddiant yn ymestyn dros Glawdd Offa hefyd. Cawn ei hanes yn recordio ar label Parlophone yn 1971.

Dim cerddoriaeth yn unig oedd yn cael lle ar recordiau Cymraeg. Eirwyn Pontshan sy'n sgwrsio â Dafydd Iwan yn 1966 am gyfres o straeon ac englynion recordiwyd ar Teledisc Records/ Recordiau Gwlad y Gân. Ymhell o englynion Pontsian oedd offerynnau trydan Y Blew – grŵp canu roc cyntaf Cymru. Recordiwyd eu unig sengl, Maes B ar label Qualiton, Naid i Orllewin Cymru nesa, am sgwrs gyda Richard Jones a sefydlodd gwmni Fflach ym 1981 gyda'i frawd Wyn.

Beth oedd y record gyntaf i chi ei brynu? Cawn atgofion rhai o'n gwrandawyr! A'r cwis? Wel am ganeuon wrth gwrs!

57 o funudau

Darllediad diwethaf

Mer 26 Awst 2020 18:00

Rhagor o benodau

Blaenorol

Nesaf

Gweld holl benodau Cofio

Darllediadau

  • Sul 23 Awst 2020 14:00
  • Mer 26 Awst 2020 18:00