Tân Pont Britannia
Mae Dei yn nodi hanner canrif ers tân Pont Britannia ym 1970. Dei notes fifty years since the fire of Britannia Bridge in 1970.
Cawn glywed am ymdrech newydd cyngor Caerdydd i roi enwau Cymraeg ar strydoedd newydd y ddinas gyda Dylan Foster Evans.
Casgliad o straeon byrion oedd gan Heiddwen Tomos i'w gynnig i'r Fedal Ryddiaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, a chawn glywed am ei pherthynas â'r cyfrwng.
A hithau'n hanner can mlynedd ers tân Pont Britannia, caiff Dei gyfle i sgwrsio gyda Howard Hughes. Hefyd, cawn glywed gan Les Roberts, oedd yn swyddog tân gwirfoddol ar y pryd.
Alaw Mai Edwards yw'r diweddaraf o'r unigolion sydd yn rhannu eu hoff gerddi, ac yna Alaw Jones o Fethesda sy'n adrodd stori am fabwysiadu dwy ferch o'r India.
Darllediad diwethaf
Rhagor o benodau
Blaenorol
Nesaf
Darllediadau
- Sul 17 Mai 2020 17:00Â鶹Éç Radio Cymru & Â鶹Éç Radio Cymru 2
- Maw 19 Mai 2020 18:00Â鶹Éç Radio Cymru & Â鶹Éç Radio Cymru 2
Podlediad
-
Dei Tomos
Sgyrsiau am Gymru, ei phobl a'i diwylliant.