Main content
Mae鈥檔 ddrwg gennym 鈥榙yw鈥檙 bennod yma ddim ar gael ar 麻豆社 iPlayer Radio ar hyn o bryd

Golwg ar y celfyddydau yng Nghymru a thu hwnt. A look at the arts in Wales and beyond.

Ymysg cwmni Nia Roberts mae Comisiynydd Drama S4C, Gwenllian Gravelle, y cynhyrchydd teledu Branwen Cennard a鈥檙 adolygydd celf Sioned Williams, a hynny er mwyn trafod y defnydd a wneir o鈥檙 Gymraeg a鈥檙 Saesneg ochor yn ochor mewn dramau ar S4C. Ydy hyn yn ffordd o ledaenu鈥檙 iaith Gymreag a chyrraedd cynulleidfa newydd neu dim ond yn gwanhau鈥檙 achos am sianel uniaith Gymraeg?

Iola Baines sy'n trafod prosiect 鈥淔framio鈥檔 Gorffennol鈥 gan Archif Sgrin a Sain Llyfrgell Genedlaethol Cymru, prosiect sy鈥檔 dathlu treftadaeth ffilm Cymru, a chipolwg hefyd ar arddangosfa o waith yr artist Gareth Owen sydd newydd agor yng Nghanolfan y Morlan, Aberystwyth.

A gyda Diwrnod y Llyfr ar y gorwel, y cysylltiad rhwng darllen a iechyd meddwl sydd yn cael sylw Catrin Beard a鈥檌 gwesteion, sef y cyfieithydd Bethan Mair, yr awdures Angharad Tomos a Phrif Lyfrgellydd Sir Ddinbych, Bethan Hughes.

58 o funudau

Darllediad diwethaf

Llun 2 Maw 2020 18:00

Darllediad

  • Llun 2 Maw 2020 18:00