02/12/2019
Golwg ar y celfyddydau yng Nghymru a thu hwnt. A look at the arts in Wales and beyond.
Mae Nia Roberts yn cael cwmni鈥檙 dramodydd Dafydd James, er mwyn edrych ymlaen at ei ddrama newydd Tylwyth, sydd yn cael ei pherfformio ar daith gan y Theatr Genedlathol yn y flwyddyn newydd. Mae鈥檙 ddrama yn ddilyniant i Llwyth, y ddrama a fu鈥檔 lwyddiant ysgubol pan y perfformwyd hi ddegawd yn 么l.
Tirwedd ei milltir sgw芒r sy鈥檔 ysbrydoli鈥檙 artist Eleri Mills, ac mewn arddangosfa arbennig yn Oriel Davies, y Drenewydd, mae cynnyrch degawd o鈥檌 gwaith i鈥檞 weld. Wrth grwydro o amgylch yr arddangosfa, mae鈥檙 artist yn egluro wrth Nia ei bod yn parhau i ddarganfod ysbrydoliaeth yn nhir mwyn Maldwyn, er iddi deithio鈥檙 byd.
Hefyd mae Catrin Beard yn cael cwmni Ion Thomas a Bethan Jones Parry er mwyn trin a thrafod dwy gyfrol newydd, sef Gwirionedd gan Elinor Wyn Reynolds ac Y Bwrdd gan Iwan Rhys.
Darllediad diwethaf
Darllediad
- Llun 2 Rhag 2019 18:00麻豆社 Radio Cymru 2 & 麻豆社 Radio Cymru