Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar Â鶹Éç iPlayer Radio ar hyn o bryd

Mae Nia'n cwrdd â chast a chriw sioe gerdd newydd am ferched y ffatrïoedd yng Nghymru. A look at the arts in Wales and beyond.

Y merched a fu’n gweithio yn ffatrioedd Cymru yn yr 1950au yw testyn y sioe gerdd newydd Tic Toc. Mae Nia'n ymweld â'r ystafell ymarfer i gyfarfod y cast ac i glywed am y prosiect.

Curadur Casgliad Ffotograffau’r Llyfrgell Genedlaethol, Wil Troughton, sy’n sgwrsio am fis arbennig Ffocws ar Ffotograffiaeth sy’n cael ei gynnal yn y Llyfrgell ar hyn o bryd, ac mae’r llenor Grug Muse yn gwneud apêl am farddoniaeth ar gyfer Blodeugerdd 2020, sef cyfrol a fydd yn adlewyrchu bywyd yng Nghymru heddiw.

Mae Lowri Haf Cooke yn edrych ymlaen at ymddangosiad yr arwres Sarah Connor yn y ffilm Terminator newydd ac yn trafod hanes merched cryf ar y sgrîn arian.

Ac mae Stiwdio yn talu teyrnged i Wynne Jenkins, yr artist o Gaerfyrddin a fu farw’n ddiweddar.

27 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 27 Hyd 2019 17:00

Darllediadau

  • Mer 23 Hyd 2019 12:30
  • Sul 27 Hyd 2019 17:00