Main content
Y Goron yn y Chwarel, Ifor Bach a Tom
Catrin Beard a'i gwesteion yn trafod tair nofel wedi'u hanelu'n benodol at bobl ifanc. Catrin Beard and guests discuss three new novels specifically aimed at young adults.
Catrin Beard a'i gwesteion yn trafod tair nofel newydd wedi'u hanelu'n benodol at bobl ifanc, er bod y cyhoeddwyr yn pwysleisio y dylai'r ap锚l fod yn ehangach na hynny.
Mae Tom gan Cynan Llwyd yn gyfrol ddinesig am fachgen pymtheg oed, wrth i Ifor Bach gan Eurig Salisbury ganolbwyntio ar y Normaniaid a'u cestyll yn gorthrymu'r brodorion Cymreig.
Y Goron yn y Chwarel gan Myrddin ap Dafydd yw'r trydydd llyfr, sydd wedi'i leoli ym Mlaenau Ffestiniog yng nghyfnod yr Ail Ryfel Byd.
Lois Medi Wiliam, Martha Llwyd a Greta Evans yw'r adolygwyr.
Darllediad diwethaf
Sul 1 Medi 2019
16:00
麻豆社 Radio Cymru 2 & 麻豆社 Radio Cymru
Darllediadau
- Iau 29 Awst 2019 12:30麻豆社 Radio Cymru 2 & 麻豆社 Radio Cymru
- Sul 1 Medi 2019 16:00麻豆社 Radio Cymru 2 & 麻豆社 Radio Cymru