Main content
Mae鈥檔 ddrwg gennym 鈥榙yw鈥檙 bennod yma ddim ar gael ar 麻豆社 iPlayer Radio ar hyn o bryd

Hanes y Cenhadwr John Davies

Sgyrsiau'n cynnwys hanes y cenhadwr John Davies, a aeth i Tahiti yn y flwyddyn 1800. Dei learns more about missionary John Davies, who went to Tahiti in the year 1800.

Ar 么l dychwelyd o Tahiti, mae Marian Rees o Dal-y-llyn yn rhannu ei phrofiad o fynd ar drywydd hanes y cenhadwr John Davies, a aeth yno o Lanfihangel-yng-Ngwynfa yn y flwyddyn 1800. Mae Dei hefyd yn cael cwmni'r Parchedig Watcyn James, sydd wedi ymchwilio yn ddyfal i hanes John Davies dros y blynyddoedd.

Einion Thomas sy'n s么n am ei daid, o bosib, yn gweld yr eryr aur olaf i gael ei weld yng Nghymru, a hynny rhwng Trawsfynydd a Llanuwchllyn.

Ychydig fisoedd wedi i Gymdeithas John Gwilym Jones gael ei hailffurfio ym Mhrifysgol Bangor, mae'r myfyrwyr Osian Owen a Carwyn Jones yn edrych ymlaen at gynhyrchiad newydd o'r ddrama Ac Eto Nid Myfi. Nid yn unig hynny, ond mae Robat Trefor yn hel atgofion am y cynhyrchiad gwreiddiol.

Hefyd, Derec Llwyd Morgan yn sgwrsio am arddangosfa o luniau'r bardd a'r artist Brenda Chamberlain yn Storiel ym Mangor.

1 awr, 28 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 10 Maw 2019 17:30

Cerddoriaeth a chwaraewyd

  • Si芒n James

    O Am Gael Ffydd

    • Gosteg.
    • RECORDIAU BOS.
    • 5.
  • Steffan Rhys Hughes

    Nid Fi Yw Mab Fy Nhad

    • Steffan.
    • Sain.
    • 3.
  • Bob Delyn a'r Ebillion

    Swn (Ar Gerdyn Post)

    • Dal I 'Redig Dipyn Bach.
    • Sain.
    • 08.
  • Bryn Bach

    T欧 Bob

    • Enfys.
    • ABEL.

Darllediad

  • Sul 10 Maw 2019 17:30

Podlediad