20/01/2019
John Roberts a'i westeion yn trafod Cristnogion yn cael eu herlid, celf ddadleuol, a'r Wythnos Weddi am Undeb Cristnogol. John Roberts and guests discuss ethics and religion.
Ar 么l i Open Doors gyhoeddi ei rhestr flynyddol o wledydd lle mae Cristnogion yn profi erledigaeth, mae Matthew Rees o'r elusen yn trafod y canfyddiadau.
Wedi i gerflun yn dangos Ronald McDonald wedi'i groeshoelio gael ei dynnu i lawr o arddangosfa yn Israel, Jon Gower sy'n ystyried pam fod symbolau crefyddol yn medru cythruddo.
Pwysigrwydd yr Wythnos Weddi am Undeb Cristnogol yn ardal Y Fenni sy'n cael sylw Gwenllian Knighton, ac mae John hefyd yn sgwrsio gyda Si芒n Rees, cyfarwyddwr newydd y Gynghrair Efengylaidd yng Nghymru.
Hefyd, Iona Price yn s么n am daith gerdded ym Mlaenau Ffestiniog, sy'n nodi cysylltiad Niclas y Glais 芒'r ardal.
Darllediad diwethaf
Darllediad
- Sul 20 Ion 2019 08:00麻豆社 Radio Cymru
Podlediad
-
Bwrw Golwg
Trafodaeth wythnosol ar faterion moesol a chrefyddol.