Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar Â鶹Éç iPlayer Radio ar hyn o bryd

Llanuwchllyn

Rhys Meirion ar ymweliad ag ardal Llanuwchllyn, yn cwrdd â chymeriadau lleol. Rhys Meirion visits Llanuwchllyn, where he meets some of the local characters.

Rhys Meirion ar ymweliad ag ardal Llanuwchllyn, yn cwrdd â chymeriadau lleol.

Mae David Jones yn hen ffrind ysgol iddo, sydd bellach yn rheoli Rheilffordd Llyn Tegid.

Yn gyfnod prysur i gwmnïau drama yn y pentref, gyda'r ŵyl ddrama flynyddol ar y gorwel, mae'n sgwrsio â rhai aelodau yn y neuadd.

Ffensio ydy gwaith Gwynant Roberts - cymeriad sy'n adnabod yr ardal fel cledr ei law.

Richard Antur Edwards ddaeth â trydan i Lanuwchllyn ar ddechrau'r ugeinfed ganrif, a mae ei ŵyr, Huw Antur, yn un o'r hoelion wyth lleol. Mae'n sôn am waith arloesol ei daid.

Mae Rhys hefyd yn cwrdd â chriw hwyliog Tri Gog a Hwntw, sy'n cynnal nosweithiau llawen ar hyd a lled Cymru.

27 o funudau

Darllediad diwethaf

Iau 25 Gorff 2019 12:00

Rhagor o benodau

Blaenorol

Nesaf

Gweld holl benodau Dewch am Dro

Darllediadau

  • Iau 3 Ion 2019 12:00
  • Iau 25 Gorff 2019 12:00