Main content
Mae鈥檔 ddrwg gennym 鈥榙yw鈥檙 bennod yma ddim ar gael ar 麻豆社 iPlayer Radio ar hyn o bryd

Motor Niwron a Fi

Y penderfyniadau sy'n wynebu Gwenda Owen, wrth iddi ddygymod 芒 chlefyd motor niwron. The decisions facing Gwenda Owen, as she copes with motor neurone disease - a terminal illness.

Ym mis Mawrth 2017, cafodd Gwenda Owen o Rhuthun wybod fod ganddi glefyd motor niwron, sef salwch terfynol sy'n golygu bod cyhyrau'r corff yn gwanhau yn raddol.

Mae Cymdeithas Motor Niwron yn amcangyfrif bod ychydig dros ddau gant o bobl hefo'r cyflwr yng Nghymru, ond does dim cofrestr swyddogol.

Mae Manylu wedi bod yn dilyn Gwenda, wrth iddi orfod wynebu newdiadau mawr i'w dyfodol.

Gosod peg bwyd yn ei stumog, trafod recordio ei llais ar gyfer y cyfnod pan na fydd yn medru siarad, cael rhagor o ofalwyr i'r t欧 - maen nhw'n bynciau mae'r cyn-athrawes yn eu trafod yn gwbl agored, mewn modd sy'n pendilio o'r llon i'r lleddf.

Wrth drafod ei chynllun diwedd oes, mae hi hefyd yn dweud ei bod o blaid newid y ddeddf yn ymwneud ag ewthanasia, sydd yn anghyfreithlon yn y wlad yma.

Mae Gwenda yn dweud bod ganddi hawl i fyw, ond hefyd hawl i ddewis peidio 芒 byw, gan danlinellu drwy'r rhaglen - serch yr anhawsterau - ei bod yn nofio mewn m么r o gariad gan deulu a ffrindiau, a bod y gefnogaeth honno wedi bod yn amhrisiadwy.

27 o funudau

Darllediad diwethaf

Llun 6 Mai 2019 17:30

Darllediadau

  • Iau 20 Medi 2018 12:30
  • Sul 23 Medi 2018 16:00
  • Llun 6 Mai 2019 17:30

Podlediad Manylu

Lawrlwythwch podlediad Manylu i wrando ar bynciau llosg yng Nghymru a tu hwnt.

Podlediad