Blwyddyn Ben Lake
Portread o flwyddyn gyntaf Ben Lake fel yr aelod seneddol ieuengaf yng Nghymru. A look at the first year in Parliament for Wales's youngest MP, Ben Lake.
Doedd Ben Lake ddim wir yn disgwyl buddugoliaeth yn etholiad 2017, felly roedd ennill mewn gornest agos iawn yn sioc, a newidiodd ei fywyd dros nos.
Roedd cynrychioli Ceredigion mewn cyfnod mor gythryblus yn wleidyddol yn dalcen caled, gyda Brexit, Syria, Rwsia a'r Arlywydd Trump yn y penawdau'n gyson. Cyn hynny, fodd bynnag, roedd yn rhaid cael trefn ar faterion mwy ymarferol, fel dod o hyd i staff a swyddfa a lle i aros yn Llundain; tipyn o gyfrifoldeb i ddyn 24 oed, dair blynedd yn unig ar 么l gadael y coleg.
Mae Manylu wedi bod yn recordio gyda Ben Lake dros y cyfnod, gan fynd i'w swyddfeydd yn Llanbed a San Steffan.
Dyma godi cwr y llen ar waith aelod seneddol, gan roi portread o flwyddyn gyntaf yr un ieuengaf yn Nghymru.
Darllediad diwethaf
Clipiau
-
Blwyddyn Ben Lake: San Steffan
Hyd: 00:56
-
Blwyddyn Ben Lake: marchnad Pontarfynach
Hyd: 00:32
Darllediadau
- Iau 12 Gorff 2018 12:30麻豆社 Radio Cymru & 麻豆社 Radio Cymru 2
- Sul 15 Gorff 2018 16:00麻豆社 Radio Cymru & 麻豆社 Radio Cymru 2
Podlediad Manylu
Lawrlwythwch podlediad Manylu i wrando ar bynciau llosg yng Nghymru a tu hwnt.
Podlediad
-
Manylu
Golwg ymchwiliadol ar bynciau llosg yng Nghymru a thu hwnt.