Sepsis - Y lladdwr tawel
Galwadau i wneud pobl yn fwy ymwybodol o sepsis wedi marwolaeth g诺r busnes o Langefni. Calls to raise awareness of sepsis following the death of a 55-year-old Llangefni man.
Yn 55 mlwydd oed roedd Elfed Hughes o Langefni yn ddyn iach. Ond ddyddiau'n unig ar 么l ymddeol fel un o gyfarwyddwyr cwmni adeiladu Huws Gray bron i ddwy flynedd yn 么l bu farw o sepsis, cyflwr oedd yn gwbl ddiarth i'w deulu. R诺an mae ei wraig Fflur Mai yn siarad yn gyhoeddus am y tro cyntaf ers ei farwolaeth sydyn, ac yn galw am godi ymwybyddiaeth o gyflwr sy'n lladd tua 1800 o bobl yng Nghymru bob blwyddyn. Yn ystod y 5 mlynedd hyd at ddiwedd Mawrth 2017 bu cynnydd o ugain y cant yn nifer y cleifion gafodd sepsis yng Nghymru ond, law yn llaw a hynny, bu gostyngiad yn nifer y marwolaethau. Yn 么l llywodraeth Cymru mae'n arwydd fod y gwasanaeth iechyd yn ymateb i'r her ac eisoes yn gwneud gwaith i godi ymwybyddiaeth mewn ysbytai ar hyd a lled Cymru.
Darllediad diwethaf
Rhagor o benodau
Blaenorol
Nesaf
Clip
-
Angen codi ymwybyddiaeth am sepsis
Hyd: 01:50
Darllediadau
- Iau 1 Maw 2018 12:30麻豆社 Radio Cymru & 麻豆社 Radio Cymru 2
- Sul 4 Maw 2018 16:00麻豆社 Radio Cymru & 麻豆社 Radio Cymru 2
Podlediad Manylu
Lawrlwythwch podlediad Manylu i wrando ar bynciau llosg yng Nghymru a tu hwnt.
Podlediad
-
Manylu
Golwg ymchwiliadol ar bynciau llosg yng Nghymru a thu hwnt.