Yr Alban
Yr Alban yw'r thema sy'n cael sylw John Hardy ar ei ymweliad wythnosol ag archif Radio Cymru. Scotland is the theme of today's visit to the Radio Cymru archive.
Gwrthwynebwyr cyntaf Tîm Rygbi Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad 2018 yw Yr Alban, ac felly y wlad Geltaidd honno sydd dan sylw John Hardy a thîm Cofio yn y rhaglen hon.
Cawn hanes y cilt Cymreig gydag Elen Phillips, fe glywn am gysylltiadau Cymreig yr Albanwr Dr David Livingstone gan y Parchedig T J Davies, ac Oliver Jenkins, cyfreithiwr o Gaerdydd, sydd yn adrodd araith William Wallace o'r ffilm Braveheart.
Mae Trish Parry, a fagwyd yn Glasgow ond sydd bellach yn byw yn Llandwrog, yn cofio'r chwaraewr a'r rheolwr pêl-droed Jock Stein yn ymweld â'r tÅ·. Hel atgofion am y sylwebaeth bêl-droed gyntaf yn Gymraeg ar Â鶹Éç Radio Cymru, sef Cymru yn erbyn yr Alban yn 1977, mae R. Alun Evans.
Mae Gwenfron Moss yn cofio Eric Liddell, y rhedwr Olympaidd, gan i'r ddau ohonynt fod yn genhadon yn China.
A phetai hyn oll ddim yn ddigon, mae criw Bron Meirion hefyd ar daith i'r Alban.
Darllediad diwethaf
Darllediadau
- Sul 28 Ion 2018 13:00Â鶹Éç Radio Cymru 2 & Â鶹Éç Radio Cymru
- Mer 31 Ion 2018 18:00Â鶹Éç Radio Cymru 2 & Â鶹Éç Radio Cymru