Moeseg Newyddiadurol ac Ethol Archesgob Cymru
John Roberts a'i westeion yn trafod moeseg newyddiadurol ac ethol Archesgob Cymru. John Roberts and guests discuss ethical journalism and the election of a new Archbishop of Wales.
Pam fod llifogydd yn Houston yn cael mwy o sylw na rhai yn India, Nepal a Bangladesh? Ifan Morgan Jones sy'n ymuno 芒 John Roberts i drafod beth sy'n dylanwadu ar yr agenda newyddion.
Ychydig ddyddiau cyn i Goleg Etholiadol yr Eglwys yng Nghymru gwrdd i ethol Archesgob Cymru, mae John yn clywed barn Huw Tegid Roberts, Manon Ceridwen James, Dyfrig Lloyd a Lyn Lewis Dafis ar y math o archesgob sydd ei angen, a beth fydd yr heriau iddo fe neu hi.
Mae Edwin Regan, cyn-esgob Wrecsam, yn cofio'r Cardinal Cormac Murphy-O'Connor, a fu'n arweinydd ar yr Eglwys Gatholig yng Nghymru a Lloegr rhwng 2000-2009.
Ac ar 么l i Cymru Sanctaidd gyhoeddi canlyniad pleidlais dros addoldai mwyaf poblogaidd Cymru, Elfed ap Nefydd Roberts sy'n pwyso a mesur y dewis.
Darllediad diwethaf
Rhagor o benodau
Blaenorol
Darllediad
- Sul 3 Medi 2017 08:00麻豆社 Radio Cymru
Podlediad
-
Bwrw Golwg
Trafodaeth wythnosol ar faterion moesol a chrefyddol.