Dyfodol Ffermydd Teuluol Cymru
Golwg ar effaith colli taliadau uniongyrchol o Frwsel ar ffermydd teuluol Cymru. A look at how leaving the EU will affect Welsh family farms.
Gyda thrafodaethau ar delerau gadael yr UE i fod i ddechrau o fewn y dyddiau nesaf, beth fydd effaith colli taliadau uniongyrchol o Frwsel ar ffermydd teuluol Cymru? Pa mor ddibynnol ydi ffermwyr Cymru ar y taliadau presennol?
Mae un ffermwr yn gadael inni weld ei gyfrifon, ac yn dangos pa mor anodd fyddai goroesi heb unrhyw gymorth ariannol; ac mae 'na rybudd gan un arbenigwr y bydd angen trefn newydd o gefnogi ffermydd yn yr ucheldir, neu fe allai'r diwydiant amaeth wynebu'r un tranc 芒'r diwydiant glo.
Yn 么l cynrychiolwyr o'r undebau amaeth, mae hefyd yn hanfodol bwysig cael mynediad di-doll i'r farchnad sengl o fewn yr UE; ond mae eraill yn gweld cyfleoedd i agor marchnadoedd newydd, a rhagor o gyfleoedd i bobl ifanc gael troed ar yr ysgol amaethyddol wrth i'r Deyrnas Unedig dorri'n rhydd o Frwsel.
Mae Cymro Cymraeg sy'n rheolwr fferm yn Seland Newydd yn dweud wrth Manylu fod amaethyddiaeth yno yn fwy cadarn o lawer, er bod y drefn gymorthdaliadau wedi dod i ben dros dri deg mlynedd yn 么l.
Darllediad diwethaf
Rhagor o benodau
Blaenorol
Clipiau
-
Colli Ffermydd ?
Hyd: 00:23
Darllediadau
- Iau 15 Meh 2017 12:30麻豆社 Radio Cymru
- Sul 18 Meh 2017 16:00麻豆社 Radio Cymru
Podlediad Manylu
Lawrlwythwch podlediad Manylu i wrando ar bynciau llosg yng Nghymru a tu hwnt.
Podlediad
-
Manylu
Golwg ymchwiliadol ar bynciau llosg yng Nghymru a thu hwnt.