Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar Â鶹Éç iPlayer Radio ar hyn o bryd

Y Pasg

Archif, atgof a chân yn ymwneud â'r Pasg yng nghwmni John Hardy, gan gynnwys clapio wyau a'r opera Cavalleria Rusticana. A visit to Radio Cymru's Easter archive with John Hardy.

Archif, atgof a chân yn ymwneud â'r Pasg yng nghwmni John Hardy, gan gynnwys yr hen arferiad o glapio wyau adeg y Pasg, a T Gwynn Jones yn sôn am yr opera Cavalleria Rusticana gan Mascagni.

Huw 'Bala' Williams sy'n hel atgofion am yr opera roc Jiwdas gan Gwmni Theatr Ieuenctid yr Urdd yn 1979. Cafodd y sioe ei sgwennu gan Delwyn Sion ac Emyr Edwards, a bu'r criw - a oedd yn cynnwys Elfed Dafis, Siân James a Stifyn Parri - yn perfformio ledled Cymru.

Hefyd, hanes Mary Rowenna Griffith yn mynd i weld ei thad, y Capten William Cadwaladr, ar long yr Heathfield yn Nulyn adeg Gwrthryfel y Pasg yn 1916.

1 awr

Darllediad diwethaf

Mer 19 Ebr 2017 18:00

Rhagor o benodau

Blaenorol

Nesaf

Gweld holl benodau Cofio

Clip

Darllediadau

  • Sul 16 Ebr 2017 13:00
  • Mer 19 Ebr 2017 18:00