Main content
Mae鈥檔 ddrwg gennym 鈥榙yw鈥檙 bennod yma ddim ar gael ar 麻豆社 iPlayer Radio ar hyn o bryd

Ystyron Cudd Darluniau Tsieineaidd

Golwg ar ystyron cudd darluniau Tsieineaidd, a thrafodaeth ar leoliadau perfformio. A look at the hidden meanings in Chinese scrolls currently exhibited in Cardiff.

Swyn Byd Natur: Darluniau Tsieineaidd o Adar a Blodau yw teitl arddangosfa yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd, sef casgliad o sgroliau wedi'u paentio 芒 golygfeydd o fyd natur. Mae yna sawl ystyr i'r hyn sydd i'w weld yn rhai o'r sgroliau; ystyron cudd a fyddai'n gyfarwydd i'r gynulleidfa ganrifoedd yn 么l. Hefin Jones o Ysgol y Biowyddorau Prifysgol Caerdydd sy'n ymateb i'r arddangosfa.

Mae pob math o leoliadau ar gael i gwmn茂au drama berfformio ynddyn nhw y dyddiau yma; yr hen theatrau traddodiadol, canolfannau celfyddydol amlbwrpas, heb s么n am ddilyn esiampl ddiweddar Theatr Genedlaethol Cymru a dewis lleoliad pwrpasol fel Castell Caerffili. Ond beth yw rhinweddau a rhwystredigaethau'r gwahanol leoliadau yma? Jeremy Turner o Arad Goch a Betsan Llwyd o Bara Caws sy'n trafod gyda Nia.

Hefyd, cip ar waith artist ifanc sydd yn ceisio ennill clod. Daw Catrin Llwyd Evans o Lanfihangel yng Ngwynfa yn wreiddiol, ond erbyn hyn mae'n paentio golygfeydd go wahanaol i'r rhai adref.

30 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 5 Maw 2017 17:00

Darllediadau

  • Mer 1 Maw 2017 12:30
  • Sul 5 Maw 2017 17:00