Eglwys Loegr a Phriodasau Un Rhyw
Sgwrs am Eglwys Loegr yn anghytuno am briodasau un rhyw, a chip ar gelf grefyddol arfaethedig. John Roberts and guests discuss the Church of England's stance on same sex marriages.
Mae Corff Llywodraethol Eglwys Loegr wedi gwrthod adroddiad gan yr esgobion sy'n argymell na ddylai safbwynt yr Eglwys ar briodasau un rhyw newid. A oes 'na arwyddoc芒d i'r ffaith mai T欧'r Clerigwyr a bleidleisiodd yn erbyn derbyn yr adroddiad? Margaret Quayle, ficer yn Eglwys Loegr, sy'n ymuno 芒 John Roberts i drafod.
Bydd cynllun taclo tlodi Llywodraeth Cymru, Cymunedau'n Gyntaf, yn dod i ben erbyn mis Mawrth 2018. Mae John yn holi Caren Brown o Gyda'n Gilydd yng Nghaernarfon ynghylch yr 么l-effaith bosib, ac am y gwaith mae Gyda'n Gilydd yn ei wneud gyda theuluoedd yn yr ardal. Mae Bwrw Golwg hefyd yn cofio'r diweddar Brian Thirsk, a oedd yn weithgar ym maes dileu tlodi.
Mae sawl achos wedi bod yn y newyddion yn ddiweddar o bobl anabl yn wynebu rhwystrau wrth deithio, ac mae Tina Evans yn gyfarwydd iawn 芒 phrofiadau o'r fath. Mae'r cyflwr niwrolegol Friedreich's ataxia yn effeithio ar ei chydbwysedd, ac mae'n defnyddio cadair olwyn. Beth yw profiad Tina, ac a ydy mynediad i drafnidiaeth o wahanol fathau ac adeiladau wedi gwella yn y blynyddoedd diwethaf?
Mae cyn-gaplan wedi casglu arian er mwyn adeiladu darn o gelf Gristnogol gyfoes ger un o briffyrdd Prydain. Bydd miliwn o frics yn cael eu defnyddio i greu The Wall, a phob un yn dweud hanes gweddi a gafodd ei hateb. Mae'r cynlluniau sydd ar y rhestr fer wedi'u cyhoeddi, ond beth yw ymateb yr artist a'r dyn cysylltiadau cyheoddus Wyn Melville i'r cysyniad?
Darllediad diwethaf
Rhagor o benodau
Blaenorol
Darllediad
- Sul 19 Chwef 2017 08:00麻豆社 Radio Cymru
Podlediad
-
Bwrw Golwg
Trafodaeth wythnosol ar faterion moesol a chrefyddol.