Main content
Mae鈥檔 ddrwg gennym 鈥榙yw鈥檙 bennod yma ddim ar gael ar 麻豆社 iPlayer Radio ar hyn o bryd

Darllediad Byw o'r Ddrama Macbeth

Ymateb i ddarllediad byw o Macbeth gan Theatr Genedlaethol Cymru, a hanes y delyn rawn. Reaction to Theatr Genedlaethol Cymru's live cinema broadcast of Macbeth.

Sut brofiad yw gwylio perfformiad o ddrama ar y sgr卯n fawr? Gan fod eu cynhyrchiad o Macbeth i'w weld yng Nghastell Caerffili yn unig, mae Theatr Genedlaethol Cymru wedi penderfynu darlledu perfformiad byw i sinem芒u mewn theatrau ledled Cymru. Dyma'r enghraifft gyntaf o gwmni theatr Cymraeg yn mentro i'r maes, felly mae Stiwdio'n siarad 芒 rhai o'r gynulleidfa yng Nghanolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth i glywed eu barn.

Yn Yr Wyddgrug mae Gwennan Mair Jones, gynt o Gwmni'r Fran Wen, wedi ei phenodi'n gyfarwyddwr ymgysylltu creadigol cyntaf Theatr Clwyd. Sut mae hi'n dehongli'r r么l newydd sbon yma?

Ychydig wythnosau wedi i Nia glywed yr artistiaid ifanc Lea Sautin a Mirain Fflur yn canmol Elin Huws, eu hathrawes gelf yn Ysgol Botwnnog, mae Oriel Plas Glyn y Weddw'n arddangos gwaith Elin a sawl un o'i chyn-ddisgyblion. Mae'n cynnwys gwaith argraffu, turio pren a gwehyddu, gludwaith, gwaith pen ac inc, tecstliau a gosodwaith. Elin ei hun sy'n trafod ei gwaith fel artist ac athrawes.

Cerddor arbrofol yw Rhodri Davies. Mae wedi rhoi telyn ar d芒n i weld sut sain sydd i'w glywed, wedi rhoi un yn y m么r, ac wedi rhewi un arall er mwyn iddi ddadmer yn ystod perfformiad dawns. Mae wedi derbyn gwobr Cymru Greadigol gan Gyngor Celfyddydau Cymru, ac yn bwriadu ymchwilio i hanes y delyn rawn yng Nghymru cyn adeiladu un ei hun. Ond beth yn union yw telyn rawn?

30 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 19 Chwef 2017 17:00

Darllediadau

  • Mer 15 Chwef 2017 12:30
  • Sul 19 Chwef 2017 17:00