Creu Sioe Gerdd
Nia Roberts yn holi am y prosiect 10 Minute Musicals, a'r grefft o 'sgrifennu stori fer. A look at the 10 Minute Musicals project.
Fe ddechreuodd Angharad Lee y prosiect 10 Minute Musicals am ei bod yn teimlo bod yna ddiffyg cefnogaeth yng Nghymru i bobl sydd am 'sgrifennu sioe gerdd newydd. Fe gewn ni gip ar un o'r gweithdai, gan siarad gyda rhai o'r awduron, cerddorion a pherfformwyr.
Mae straeon byrion yn bethau drud yn 么l yr awdur Caryl Lewis, yn dwyn eich syniadau a'ch cymeriadau gorau. Mae Nia'n sgwrsio 芒 Caryl am ei hail gyfrol o straeon, Y Gwreiddyn, a chyda'r Prifardd Rhys Iorwerth am ei gyfrol gyntaf e, Abermandraw. Pam 'sgrifennu straeon byrion, yn hytrach na nofel neu farddoniaeth?
Amber on Black iii yw darn comisiwn G诺yl Gerdd Bangor eleni. Mae'r gwaith gan y cyfansoddwr Gareth Olubunmi Hughes ar gyfer soprano, ffliwt alto ac effeithiau electronig, ac mae Gareth yn esbonio sut aeth ati i gyfansoddi'r darn.
Mae David Hockney yn 80 eleni, ac yn artist sydd wastad wedi torri ei gwys ei hun yn 么l Catrin Manel. Mae hi'n ymuno 芒 ni i roi peth o hanes ei fywyd a'i waith.
Darllediad diwethaf
Rhagor o benodau
Blaenorol
Nesaf
Darllediadau
- Mer 1 Chwef 2017 12:30麻豆社 Radio Cymru
- Sul 5 Chwef 2017 17:00麻豆社 Radio Cymru