Main content
Mae鈥檔 ddrwg gennym 鈥榙yw鈥檙 bennod yma ddim ar gael ar 麻豆社 iPlayer Radio ar hyn o bryd

Brexit a Trump

Aled ap Dafydd a'i westeion yn trafod araith Brexit Theresa May, a'r hyn sy'n wynebu America a'r byd wrth i Donald Trump gael ei urddo'n Arlywydd. Political discussion.

Fisoedd wedi'r bleidlais dros adael yr Undeb Ewropeaidd, mae'r Prif Weinidog Theresa May wedi cadarnhau y bydd Prydain yn gwneud hynny yn gyfan gwbl. Does dim dal gafael yn rhai pethau i fod, felly mae Brexit wir yn golygu Brexit. Dyw'r trafodaethau ffurfiol ddim yn debygol o ddechrau am sawl wythnos eto, ac mae'n broses sy'n debygol o bara am ddwy flynedd, ond mae hwn yn gyfle da i drafod y sefyllfa fel ag y mae hi ar hyn o bryd.

Mae'n gyfle da hefyd i bwyso a mesur beth sy'n wynebu America a gweddill y byd, ychydig oriau cyn i Donald Trump gael ei urddo'n Arlywydd yr Unol Daleithiau.

Roedd rhai yn feirniadol o Mr Trump am regi wrth ymgyrchu cyn yr etholiad, ond mae ymchwil yn awgrymu cysylltiad rhwng rhegi a gonestrwydd.

Y panelwyr sy'n ymuno ag Aled ap Dafydd i drafod yr uchod yw David Davies, Adam Price ac Anna Brychan.

30 o funudau

Darllediad diwethaf

Gwen 20 Ion 2017 12:05

Darllediad

  • Gwen 20 Ion 2017 12:05

Podlediad