Beth Nesaf i Aleppo?
John Roberts a'i westeion yn trafod beth nesaf i Aleppo a Syria. John Roberts and guests discuss what next for Aleppo and Syria.
Dr Brieg Powel o'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol sy'n ymuno 芒 John Roberts i drafod beth nesaf i Aleppo a Syria.
Mae John hefyd yn sgwrsio 芒 cherddwyr Cymorth Cristnogol wrth iddyn nhw gwblhau eu taith 140 milltir o Fethlehem yn Sir Gaerfyrddin i'r Aifft yn Sir Ddinbych, gyda'r nod o hel arian a chodi ymwybyddiaeth o sefyllfa ffoaduriaid y byd. Sut mae Anna Jane Evans, Huw Thomas ac Aled Edwards yn teimlo wedi cyrraedd Yr Aifft?
Mae Esgobaeth Llandaf yn yr Eglwys yng Nghymru wedi dechrau caplaniaeth ar gyfer iechyd meddwl. Sara Moseley o Mind Cymru ac Eileen Davies o'r Eglwys yng Nghymru sy'n trafod pam fod hyn yn bwysig.
21 mlynedd ar 么l i Nia Higginbotham sefydlu Trefnu Cymunedol Cymru, mae'r elusen newydd ennill gwobr yn y Guardian Charity Awards. Mae TCC yn gasgliad o grwpiau ffydd, grwpiau cymunedol ac ysgolion sy'n cydweithio i hyfforddi pobl ar draws gogledd-ddwyrain Cymru, ac mae Nia'n ymuno 芒 John i s么n rhagor am y gwaith.
Darllediad diwethaf
Rhagor o benodau
Nesaf
Darllediad
- Sul 18 Rhag 2016 08:00麻豆社 Radio Cymru
Podlediad
-
Bwrw Golwg
Trafodaeth wythnosol ar faterion moesol a chrefyddol.