O'r Diwedd: 2016 Am Flwyddyn!
Golwg ddychanol ar 2016 yng nghwmni Tudur Owen, a chyfle i hel atgofion am seiclo o'r de i'r gogledd er budd Plant Mewn Angen. Tudur Owen joins Aled to take a satiric look at 2016.
Beth bynnag eich barn ar 2016, all neb edrych yn 么l a dweud nad oedd hi'n flwyddyn gofiadwy. Mae Tudur Owen a Sian Harries wedi cydweithio ar ddwy raglen deledu sy'n cymryd golwg ddychanol ar ddigwyddiadau 2016, ac mae Tudur yn y stiwdio i drafod y broses.
Wrth i Tudur gyfeirio at ambell isafbwynt yn ei farn o, mae Casi'n cadw'r ddysgl yn wastad wrth s么n am rai o uchafbwyntiau'r flwyddyn iddi hi.
Un o uchafbwyntiau Aled ei hun, heb os, oedd ei daith lwyddiannus yn beicio o'r de i'r gogledd er budd Plant Mewn Angen. Roedd yn her a hanner, yn enwedig yng nghanol tywydd garw iawn ar brydiau, ond byddai wedi bod yn fwy o her heb gymorth a chefnogaeth Dewi Jones. Fo oedd yn gyfrifol am hyfforddi Aled, ac mae 'na groeso mawr iddo'n y stiwdio ychydig wythnosau'n ddiweddarach.
Y tro diwethaf i Llywelyn Williams o Abersoch ymddangos ar y rhaglen, roedd yn paratoi i fynd i America i reidio'r tonnau mewn cystadleuaeth yno. Sut aeth hi, tybed, ac a ydi o'n dal 芒'i fryd ar gystadlu'n y Gemau Paralympaidd yn Tokyo yn 2020?
Darllediad diwethaf
Rhagor o benodau
Blaenorol
Nesaf
Cerddoriaeth a chwaraewyd
-
Frizbee
O Na Mai'n Ddolig Eto
-
Geraint Jarman a'r Cynganeddwyr
Tracsuit Gwyrdd
- Neb Yn Deilwng 1977-1997 Goreuon Cyf. 2.
- Sain.
-
Elin Fflur
Clywch Y Clychau
- Nadolig Newydd.
- Sain.
-
Mei Gwynedd
Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda
- Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda(Tra.
- Jigcal.
-
Gwyneth Glyn
Lle Fyswn I
- Cains - Gwyneth Glyn.
- Recordiau Gwinllan.
-
Y Bandana
Dant Y Llew
- Fel Ton Gron.
- Rasal.
-
Caryl Parry Jones
Gwyl Y Baban
Choir: Ysgol Iau Llangennech. Conductor: Paul Leddington Wright. Featured Artist: The Big Sing Orchestra. Music Arranger: Howard Jeffrey. Lyricist: Caryl Parry Jones.- Ar Noson Fel Heno-Carolau Newydd.
- Sain.
-
Alistair James & Laura Sutton
Y Goeden Yn Y Gornel
- *.
- Nfi.
-
Mim Twm Llai
Tafarn Yn Nolrhedyn
- O'r Sbensh.
- Crai.
-
Alys Williams
Un Seren
-
Casi
Pam Fod Adar yn Symud i Fyw
-
Elidyr Glyn
Coedwig Ar Dan (Sesiwn Sbardun)
-
Brigyn
Haleliwia
- Haleliwia.
- Nfi.
-
Huw M
Iesu Faban
- Yn Ddistaw Ddistaw Bach.
Darllediad
- Iau 22 Rhag 2016 08:30麻豆社 Radio Cymru