Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar Â鶹Éç iPlayer Radio ar hyn o bryd

Tyrcwn a Sorela

Ymweliad â fferrm Ty'n Llwyfan i gyfarfod tyrcwn Gareth Wyn Jones, a sgwrs gyda Sorela. Aled visits Ty'n Llwyfan farm to talk turkey, and Sorela chat about their new album.

I nifer o bobl sy'n bwyta cig, fyddai 'Dolig ddim yn 'Ddolig heb dwrci. Un sy'n cadw tyrcwn i'w rhoi yn anrhegion ydi Gareth Wyn Jones, ac mae Aled yn ymweld â fferm Ty'n Llwyfan i holi faint o waith ydi gofalu amdanyn nhw cyn y daw Dydd y Farn.

Mae 2016 wedi bod yn flwyddyn brysur i chwiorydd Sorela, ac yn goron ar y cwbl mae albwm newydd. Mae Aled yn cael cwmni Lisa, Mari a Gwenno i drafod y casgliad sy'n gymysgedd o ganeuon gwreiddiol a thraddodiadol.

Grŵp arall sydd ar fin ffarwelio â blwyddyn lwyddiannus iawn ydi Candelas, a dyma gyfle iddyn nhw hel atgofion am eu haf bythgofiadwy yn Rhedeg i Paris.

Hefyd, sgwrs gyda'r cyflwynydd Llion Williams am raglen ddogfen ar Radio Cymru sy'n rhoi hanes bachgen a gafodd ei adael mewn bocs ar y ffin rhwng Twrci a Syria. Mae Bedri bellach â'i draed yn gadarn ar dir Cymru, ac mae ganddo awydd angerddol i helpu ffoaduriaid Syria.

1 awr, 30 o funudau

Darllediad diwethaf

Llun 19 Rhag 2016 08:30

Cerddoriaeth a chwaraewyd

  • Dafydd Iwan & Ar Log

    Cân Y Medd

    • Yma O Hyd - Dafydd Iwan Ac Ar Log.
    • Sain.
  • Pheena

    Gwyl Y Nadolig

    • *.
    • Nfi.
  • Sorela

    Am Ba Hyd

  • Mei Gwynedd

    Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda

    • Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda(Tra.
    • Jigcal.
  • Meic Stevens

    Noson Oer Nadolig

    • Dim Ond Cysgodion.Y Baledi - Meic Steven.
    • Sain.
  • Frizbee

    O Na Mai'n Ddolig Eto

  • Bendith

    Angel

    • Bendith.
    • Agati Records.
  • Dewi Morris

    Nadolig Ddoe A Heddiw

    • Geirie Yn Y Niwl - Dewi Pws.
    • Fflach.
  • Candelas

    Rhedeg I Paris

    • Rhedeg I Baris.
    • Nfi.
  • Gai Toms & Lowri Cunnington

    Babwshka

    • Sesiwn Ar Gyfer C2.
  • Super Furry Animals

    Ysbeidiau Heulog

    • Mwng - Super Furry Animals.
    • Placid.
  • Sara Mai & Mari Pritchard Lloy

    Nadolig Heb Y Baban

    • Hwyl Yr Wyl.
    • Bocsiwn.
  • Lowri Evans

    Aros Am Y Trên

    • Dydd a Nos Lowri Evans.
    • Rasal.

Darllediad

  • Llun 19 Rhag 2016 08:30