Tîm Achub Mynydd Llanberis a Blogio
Ymweliad â chanolfan Tîm Achub Mynydd Llanberis sydd wedi torri record, a sgwrs gyda dwy sy'n blogio. Aled visits the UK's busiest mountain rescue team.
Wrth i 2016 dynnu at ei therfyn, mae Tîm Achub Mynydd Llanberis wedi ymateb i dros 200 o ddigwyddiadau ers dechrau'r flwyddyn. Mae hynny'n record yng ngwledydd Prydain, felly mae Aled yn ymweld â'u canolfan yn Nant Peris i drafod eu gwaith gwirfoddol a'u prysurdeb aruthrol dros y misoedd diwethaf.
Os nad ydi blogio'n golygu unrhyw beth i chi, mae 'na gyfle i ddysgu yng nghwmni dwy sy'n gyfarwydd iawn â'r maes. Mae Llio Angharad yn cynnig syniadau'n ymwneud â ffasiwn ar ei sianel YouTube, ac mae Elin Yapp yn blogio am gadw'n heini a bwyta'n iach.
Adelyn Ellis o Seren sy'n edrych ymlaen at gyfres ddogfen newydd ar Radio Cymru. Cafodd Seren ei sefydlu yn 1996 i gynnig cefnogaeth i oedolion gydag anawsterau dysgu ym Meirionnydd, ac mae'r fenter wedi ffynnu byth er hynny.
Ac ychydig dros bythefnos cyn y diwrnod mawr, pa mor debygol ydi hi y cawn ni Nadolig gwyn? Chris Jones, un o gyflwynwyr tywydd S4C, sydd â'r rhagolygon diweddaraf.
Darllediad diwethaf
Rhagor o benodau
Blaenorol
Nesaf
Cerddoriaeth a chwaraewyd
-
Brigyn
Deffro
- Brigyn 4.
- Gwynfryn Cymunedol.
-
Meic Stevens
Shw Mae, Shw Mae?
- Gwymon.
- Recordiau Dryw.
-
Mattoidz
Nadolig Wedi Dod
-
Mynediad Am Ddim
Pappagio's
- Mynediad Am Ddim 1974-1992.
- Sain.
-
Geraint Lovgreen a’r Enw Da
Nid Llwynog Oedd Yr Haul
- Geraint Lovgreen a'r Enw Da 1981-1998.
- Sain.
-
Anweledig
Dawns Y Glaw (Sesiwn C2)
- Sombreros Yn Y Glaw.
- Crai.
-
Yr Oria
Cyfoeth Budr
- *.
- Nfi.
-
Angharad Brinn
Y Cariad Mwyaf Un
- Seren Newydd.
- Rasp.
-
John ac Alun
Hen Freuddwydion
- Hir a Hwyr.
- Recordiau Aran.
-
Kizzy Crawford
Brown Euraidd
- Can I Gymru 2014.
-
Huw M
Iesu Faban
- Yn Ddistaw Ddistaw Bach.
-
Y Bandana
Dal I Ddysgu
- Fel Ton Gron.
- Rasal.
Darllediad
- Gwen 9 Rhag 2016 08:30Â鶹Éç Radio Cymru