Meic Povey a Branwen Cennard
Nia Roberts yng nghwmni dau gyd-ddramodydd, Meic Povey a Branwen Cennard. Nia Roberts chats to co-writers Meic Povey and Branwen Cennard.
Nia Roberts yng nghwmni dau gyd-ddramodydd, Meic Povey a Branwen Cennard, wrth i'r ddau nodi ugain mlynedd o gydweithio er mwyn cynnig dihangfa ac adloniant i wylwyr S4C.
Wrth sgwrsio yng nghartref cwmni teledu Lluniau Lliw yn Nhreganna, Caerdydd, mae Nia'n clywed am briodas greadigol y ddau. Mae'n syndod ei bod hi wedi digwydd o gwbl ar 么l i adolygiad anffafriol gan Branwen bechu Meic am flynyddoedd, ond daeth y ddau i ddeall ei gilydd. Mae'r naill yn dibynnu ar y llall, ac yn gorfod ymddiried yn ei gilydd a bod yn gwbl onest yng nghwmni ei gilydd er mwyn i'w dram芒u gydio.
Mae'r dylanwadau ar hyd y blynyddoedd yn cynnwys Meic yn gweld rhai o olygfeydd The Inn of the Sixth Happiness gydag Ingrid Bergman yn cael eu ffilmio yn Nantmor ger Beddgelert, a Branwen yn cael profiad ysgytwol wrth weld Bargen gan Theatr Bara Caws yn ei harddegau.
Mae Branwen hefyd yn cydnabod dylanwad aruthrol John Owen arni fel disgybl yn Ysgol Gyfun Rhydfelen, ac yn siarad yn agored am y mynydd sydd yn dal o'i blaen wrth geisio delio ag ymchwiliad cyhoeddus yn dod i'r casgliad nad oedd unrhyw amheuaeth iddo gamdrin rhai disgyblion yn rhywiol.
Un o gyfnodau tywyll Meic oedd colli Gwenda, ei wraig, ac mae'n dweud wrth Nia fod Branwen wedi bod yn gefn mawr iddo yn ystod ei salwch.
Mae'r sgwrs yn digwydd yn ystod cyfnod o weithio ar ail gyfres Byw Celwydd.
Darllediad diwethaf
Rhagor o benodau
Blaenorol
Darllediadau
- Sul 20 Tach 2016 19:05麻豆社 Radio Cymru
- Maw 22 Tach 2016 12:00麻豆社 Radio Cymru
- Sul 23 Ebr 2017 12:00麻豆社 Radio Cymru
- Sul 18 Tach 2018 19:05麻豆社 Radio Cymru & 麻豆社 Radio Cymru 2