David Lloyd a'r Rhyfel Mawr
Sylw i'r tenor David Lloyd, un o gantorion gorau Cymru'n yr 20fed ganrif, a dwy sgwrs am y Rhyfel Mawr. Dei and guests discuss the life and career of tenor David Lloyd.
Amrywiaeth o destunau, gan ddechrau gyda sylw i un o gantorion gorau Cymru'n yr 20fed ganrif. Roedd David Lloyd yn boblogaidd tu hwnt, ond doedd bywyd ddim yn f锚l i gyd i'r tenor o Sir y Fflint. Dyna pam mai Llestr Bregus ydi teitl cofiant Hywel Gwynfryn iddo. Mae Dei yn cael cwmni Hywel, yn ogystal 芒 Rhidian Griffiths sydd hefyd wedi ymchwilio i gefndir bywyd a gyrfa David Lloyd.
I gyd-fynd 芒 chyfnod y Cofio, mae Dinah Evans yn trafod cyfraniad aruthrol merched mewn amrywiol feysydd yn ystod y Rhyfel Mawr, a Hefin Wyn sy'n adrodd hanes hen ewythr iddo'n cael ei ladd ar faes y gad yn Ffrainc. Roedd Gwilym Williams yn fardd ifanc a enillodd nifer o gadeiriau eisteddfodol, gan gynnwys Cadair Eisteddfod Prifysgol Aberystwyth yn 1912.
Mary Wiliam sy'n trafod hen ddywediadau Cymraeg, ac mae Alun Ffred Jones hefyd yn ymuno 芒 Dei i bwyso a mesur sut mae ardal fel Dyffryn Nantlle'n ymdopi 芒'r cyfnod 么l-ddiwydiannol.
Darllediad diwethaf
Rhagor o benodau
Blaenorol
Darllediadau
- Sul 20 Tach 2016 17:30麻豆社 Radio Cymru
- Maw 22 Tach 2016 18:00麻豆社 Radio Cymru
Podlediad
-
Dei Tomos
Sgyrsiau am Gymru, ei phobl a'i diwylliant.